Ein Cred
Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’r rhai sy’n swil am eu Cymraeg. Ni sydd piau hi! Ein lle ni ydy edrych ar ei hôl hi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, dewch hefo ni ar ein taith i’r miliwn o siaradwyr erbyn 2050!
Beth mae Cwricwlwm Cymru’n ei ddweud?
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. Mae Ieithoedd yn ein cysylttu ni. Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch.
Beth ydy bod yn ddwyieithog?
Dyma'r gallu i fyw eich bywyd bob dydd mewn dwy iaith. Dyna beth rydyn ni yn Ysgol Aberconwy yn awyddus i'w gynnig i'n myfyrwyr.
2 Iaith = Agor 2 Ddrws
Beth ydy Manteision Dwyieithrwydd?
Mynediad i ddau ddiwylliant / Cyfathrebu gyda’r teulu a’r gymuned i gyd / Sicrwydd hunaniaeth
Un o’r pethau prin sy’n gwahaniaethu Cymru oddi wrth gweddill y Deyrnas Unedig yw’r iaith Gymraeg, ac mae’n gallu bod yn ddolen gyswllt bwerus rhwng y Cymry ble bynnag y bônt. Gall bawb yng Nghymru ac o Gymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi. Mae hi’n perthyn i ni i gyd.
Un mantais i fod yn ddwyieithog ydy cael mynediad at ddau ddiwylliant sy’n gallu bod yn brofiad o ddau wahanol fyd. Daw yr iaith Gymraeg â’i hidiomau a’i dywediadau cyfoethog, ei chwedlau gwerin, barddoniaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth, yn draddodiadol ac yn gyfoes, ac yn wahanol ffordd o ddeall y byd.
Pan fo dau riant yn siarad dwy wahanol iaith, gall plentyn dwyieithog gyfathrebu yn y ddwy iaith! Bydd perthynas arbennig yn cael ei meithrin gyda phob rhiant. Bydd y plentyn yn etifeddu rhannau o orffennol a threftadaeth ei rieni. Mae bod yn ddwyieithog yn adeiladu’r pont rhwng cenedlaethau, er enghraifft, neiniau a theidiau neu aelodau eraill o’r teulu. Gall hyn gynorthwyo i gynyddu’r teimlad o berthyn i deulu ehangach. Hefyd, mae siarad Cymraeg yn galluogi pobl i gymryd rhan lawn ym mywyd y gymuned.
Manteision addysgol / Haws dysgu iaith arall / Ehangu mwynhad darllen ac ysgrifennu
Dengys tystiolaeth ymchwil yng Nghanada, Unol Daleithiau’r Amerig, Gwlad y Basg, Catalonia ac yng Nghymru, bod plant sydd â dwy iaith yn dueddol o wneud yn well yn y cwricwlwm ac yn dangos perfformiad uwch mewn profion ac arholiadau. Daw hyn yn rhannol oherwydd y manteision a geir i sgiliau meddwl unigolyn dwyieithog. Ceir tystiolaeth gynyddol (a ddaw o ymchwil Ewropeaidd) sy’n dangos fod pobl ddwyieithog yn dueddol o weld dysgu iaith arall yn haws. Mae’r enghreifftiau cyfredol yn blant o wledydd fel yr Iseldiroedd, Denmarc a’r Ffindir sydd yn aml yn siarad tair (neu bedair) o wahanol ieithoedd yn ddidrafferth. Enghraifft arall yw Gwlad y Basg, ble mae dysgu Basgeg, Sbaeneg a Saesneg wedi dod yn arferiad eithaf aml.
Os yw rhywun yn gallu ysgrifennu mewn dwy iaith, maen nhw’n gallu mwynhau dau lenyddiaeth yn eu hiaith gwreiddiol. Mae’n agor dealltwriaeth dyfnach i draddodiadau, syniadau, ffyrdd o feddwl ac ymddygiad. Mae’r pleser o ddarllen nofelau, barddoniaeth a chylchgronau a’r mwynhad o ysgrifennu at ffrindiau a theulu yn dyblu ar gyfer pobl ddwyieithog.
Manteision yn y byd gwaith
Ceir manteision economaidd (sy’n parhau i gynyddu) i fod yn ddwyieithog yng Nghymru. Mae gan unigolyn sydd â dwy iaith ddewis ehangach o swyddi yn y dyfodol. Mae angen gynyddol am siaradwyr Cymraeg yn y maes adwerthu, twristiaeth, cysylltiadau cyhoeddus, bancio a chyfrifeg, gwaith gweinyddol, cyfieithu, gwaith ysgrifenyddol, marchnata a gwerthiant, y gyfraith ac addysgu. Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi sgil gwerthfawr, ychwanegol i rywun wrth chwilio am waith.
Manteision iechyd / codi hunanfeddwl / manteision y meddwl / goddefgar o wahanol ieithoedd a diwylliant
Mae’r gallu i newid yn naturiol rhwng ieithoedd, a’r gallu i siarad â gwahnol bobl yn yr ieithoedd hynny, yn gwneud i blant deimlo’n dda amdanyn nhw’u hunain a’u gallu. Mae’r teimlad o berchenogrwydd dros y Gymraeg a’r Saesneg yn gallu gwneud rhyfeddodau i godi hunanfeddwl plentyn.
Dengys ymchwil bod dwy iaith sydd wedi datblygu’n dda yn gallu rhoi manteision i bobl o ran eu sgiliau meddwl. Ceir pedwar prif faes:
Gan fod dwy iaith yn rhoi profiad diwylliannol ehangach i unigolyn, yn aml ceir fwy o oddefgarwch at wahanol ddiwylliannol, credoau ac arferion. Mae bobl ddwyieithog yn edrych ar y byd mewn gwahanol ffordd.
(Ymchwil yr Athro Addysg Emeritws Colin Baker, Prifysgol Bangor)
Sut mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu yma?
Cynigir dau ddewis o gyrsiau Cymraeg yma: Cymraeg Ail Iaith a Chymraeg Iaith Gyntaf.
Os yw’ch plentyn wedi bod mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, mewn ffrwd Gymraeg neu wedi bod mewn ysgol gynradd naturiol Gymraeg / ddwyieithog yna byddan nhw’n cael y cyfle i astudio’r Gymraeg i lefel iaith gyntaf. Os yw eich plentyn wedi bod mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac mae eu cynnydd yn y Gymraeg wedi bod yn dda iawn yna mae’n bosib pontio o’r ail iaith i’r iaith gyntaf.
Bydd pob myfyriwr arall yn dilyn y cwrs Cymraeg Ail Iaith. Rydym yn hynod falch o ganlyniadau TGAU blynyddol Adran y Gymraeg sydd yn gyson uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Dosbarth Cofrestru LLC (Llugwy Castell)
'LLC' yw'r dosbarth dosbarth 'Cymreig'. Rhoddir y myfyrwyr sy'n dilyn y cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf, y myfyrwyr 'pontio i iaith gyntaf' a'r myfyrwyr Ail Iaith Mwy Galluog a Thalentog (MAT) yn y dosbarth dosbarth hwn. Penodir athrawes sy’n rhugl yn y Gymraeg i’r dosbarth dosbarth ac mae’n gyfrifol am gyfathrebu yn Gymraeg gyda’r myfyrwyr hynny bob bore yn ystod tiwtorial. Maent hefyd yn cyfathrebu yn Gymraeg yn ystod Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (ABChI). Bydd yr athrawon yn annog eich plentyn i gyfathrebu yn Gymraeg a defnyddio ei sgiliau Cymraeg.
Sut allwch chi helpu?
Anogwch eich plentyn i siarad Cymraeg:
Rhai adnoddau defnyddiol:
Sut mae’r ysgol yn helpu?
Er mwyn cynorthwyo eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg, mae staff rhugl a dysgwyr yn gwisgo ‘cortynnau gwddw’ du gyda swigod oren arnynt. Anogwch eich plentyn i sgwrsio gyda gwahanol aelodau o staff yn Gymraeg!
Offer Dysgu Cymraeg ac Adnoddau Cymraeg
Siarter Iaith Cymraeg Campws Uwchradd
Mae Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd yn gynllun sy’n darparu fframwaith clir i hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc.
Prif nod y Siarter yw i hyrwyddo ethos Gymraeg a Chymreig cryf ac i ddarparu arweiniad clir ynglŷn â’r Gymraeg o fewn ysgolion uwchradd yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o’u bywyd.
Yn rhan o’r siarter, ceir tair gwobr, yr Efydd, Arian a’r Aur
Er mwyn cefnogi tair gwobr y Siarter Iaith Uwchradd, mae Ysgol Aberconwy wedi creu system darged unigryw i’r ysgol herio a gwobrwyo athrawon a gwahanol adrannau am ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwersi ac am annog eu myfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ysgol. eu gwersi Cymraeg. Rydym wedi defnyddio tirnodau lleol fel symbol o gyrraedd nodau penodol. 'Croesi'r Bont i Wobr Efydd', 'Esgyn y Grisiau i Wobr Arian' a 'Dringo'r Mynydd i Wobr Aur' i Wobr Aur) – y Bont Grog, Muriau’r Castell a Mynydd y Dref (Mynydd Conwy).