Chweched Dosbarth

Pam Aberconwy?

Pam Aberconwy?

Rydym yn cynnig safon dda iawn o addysgu ar lefel chweched dosbarth dros ystod eang o bynciau. Mae maint grwpiau yn tueddu i fod yn gymharol fach, gan roi mwy o gyfle i sylw unigol. Mae gennym hefyd y fantais fawr o adnabod llawer o'n myfyrwyr ar ddechrau cyrsiau, ac felly rydym yn ymwybodol o'u cryfderau, meysydd i'w datblygu ac anghenion unigol.

Llwyddiant

Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein myfyrwyr, sy'n deillio o'u hymrwymiad personol ynghyd â'r amgylchedd dysgu cyfoethog a'r ysbryd cymunedol cryf yma yn Ysgol Aberconwy.

Yn ogystal â llwyddiant ysgubol mewn cyflogaeth a phrentisiaethau, mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio ar lefel gradd. Yn ddiweddar, bu myfyrwyr yn llwyddiannus wrth gychwyn cyrsiau gradd mewn pynciau fel: Meddygaeth, Dylunio Cychod Hwylio a Chychod Pwer, y Gyfraith, Mathemateg a Chyfrifiadureg mewn prifysgolion fel Manceinion, Lerpwl, Warwick, Queen Mary of London a Birmingham.

Mae ein llwyddiannau Chweched Dosbarth yn mynd ymhell y tu hwnt i gyflawniad academaidd. Cydnabyddir bod ein perfformiadau drama a cherddorol niferus o'r safon uchaf. Mae ein myfyrwyr ôl-16 hefyd yn chwarae rhan fawr yn y llwyddiant a gafwyd mewn digwyddiadau chwaraeon ac yn y gweithgareddau cymunedol a gynhelir yn rheolaidd.

Cyfleoedd

Cefnogaeth

Cyfleusterau

Opsiynau Cwrs

Y Broses Ymgeisio

Tystebau

Noson Agored

CY