Noson Agored 2024

1 Hydref 2024 – 5pm tan 7pm

Edrychwn ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr a’u teuluoedd i’n noson agored ar y 1af o Hydref, rhwng 5pm a 7pm, pan fyddwn yn agor ein drysau er mwyn i chi gael cipolwg o gwmpas yr ysgol a chwrdd â rhai o’n staff a’n myfyrwyr.

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan hon, gan gynnwys ein tudalennau newyddion a digwyddiadau a allai eich helpu i gael ymdeimlad o’r ysgol, felly edrychwch o gwmpas. Gallwch hefyd wylio’r ffilm am yr ysgol (ar frig y dudalen hon) a dod o hyd i wybodaeth yn yr adrannau isod i gael gwell syniad o’r hyn rydym yn ei wneud yma yn Ysgol Aberconwy a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion blwyddyn 6 a’u teuluoedd :

Cwricwlwm

Cymorth i Fyfyrwyr

Cyhoeddiadau

Cwestiynau Cyffredin

Teithiau Rhithwir

Tystebau

Mae rhai o’n staff, myfyrwyr, rhieni a Llywodraethwyr (o’r gorffennol a’r presennol) wedi rhannu eu meddyliau am fywyd a dysgu yn Ysgol Aberconwy. Gwyliwch y ffilmiau byr isod i weld beth ddywedon nhw:

Os nad ydych yn gallu mynychu ein digwyddiad noson agored ar y 1af Hydref ac yr hoffech ymweld â'r ysgol, yna anfonwch e-bost at Lynn Jones i ofyn am daith.

I weld mwy o wybodaeth am dderbyniadau, gan gynnwys ein polisi a ffurflen gais, ewch i'n Derbyniadau .

I gael rhagor o wybodaeth a/neu i wneud cais am le ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd o’ch dewis, defnyddiwch y ddolen hon i Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

CY