14eg Ionawr 2020
Annwyl Rieni/Warcheidwaid
Rydym yn ysgrifennu i’ch hysbysu am nifer o newidiadau sy’n digwydd i’r staffio grŵp blwyddyn sy’n effeithio ar fyfyrwyr ym Mlwyddyn 8, 12 & 13 ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae Mr Andy Umpleby wedi bod yn gweithio fel rhan o’r tîm Arweinyddiaeth sydd â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar ôl siarad â myfyrwyr yn yr ysgol, rydym yn ymwybodol o’r pwysau sydd arnynt yn y cyfnod heriol hwn ac yn deall na fu’r angen i’w cefnogi erioed yn fwy. Rydym felly wedi penderfynu gwneud nifer o apwyntiadau newydd i sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn y gefnogaeth fugeiliol eithriadol y maent wedi dod yn gyfarwydd â hi, ac rwyf wedi manylu ar y rhain isod.
Arweinyddiaeth Chweched Dosbarth ar gyfer 2021 :
· O Ddydd Llun 11eg Ionawr, bydd Miss Clare Freeman yn cymryd drosodd fel Pennaeth y Chweched Dosbarth. Mae Miss Freeman yn dysgu Cemeg ac yn Bennaeth Blwyddyn profiadol.
· Mae Miss Steph Spencer yn ymgymryd â rôl Cydlynydd Datblygu Sgiliau CA5. Mae Miss Spencer yn athrawes Saesneg a Bagloriaeth Cymru a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Miss Freeman a Mrs Yale i ysgogi’r myfyrwyr a’u cefnogi trwy gyfnod mor anodd.
· Bydd Mrs Yale yn parhau i gefnogi’r myfyrwyr yn ei rôl fel Mentor Chweched Dosbarth.
Bydd y Tîm chweched dosbarth yn ysgrifennu at rieni ar wahân i amlinellu gweledigaeth Miss Freeman am y flwyddyn yn ogystal â rhannu gyda chi rai o’r mentrau a gyflwynir i gefnogi’r myfyrwyr. Yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell bydd y myfyrwyr yn cael sesiynau mentora mewn grwpiau bach gyda Miss Freeman a Mrs Yale i drafod profiadau’r myfyrwyr.
Arweinyddiaeth Blwyddyn 8 ar gyfer 2021 :
· O Ddydd Llun 11eg Ionawr, bydd Miss Kirsty Youlden a Mr Callum Bennett yn cymryd drosodd fel Cyd-Benaethiaid Blwyddyn 8.
· Mae Miss Youlden yn dysgu Mathemateg a Mr Bennett yn Bennaeth AG. Mae’r ddau ohonynt yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda myfyrwyr Blwyddyn 8 a dod i’ch adnabod fel rhieni.
· Bydd Mrs Wigzell yn parhau i gefnogi’r myfyrwyr yn ei rôl fel Mentor Blwyddyn 8..
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith bugeiliol yn y grwpiau blwyddyn hyn yn datblygu dan arweiniad yr aelodau staff hyn ac yn gobeithio y bydd hyn yn eich sicrhau o’n hymrwymiad i gefnogi holl aelodau’r gymuned ysgol i ddelio â’r amgylchiadau presennol yn effeithiol.
Yn gywir
Ian Gerrard
Pennaeth
I lawrlwytho/brintio'r llythyr cliciwch yma