13 Ionawr 2021
Annwl Riant/Ofalwr
Noson Rhieni Blwyddyn 11 – Archebu Apwyntiadau Ar-lein
Hoffwn eich gwahodd i fynychu ein Noson Rhieni Ar-lein gyntaf ar Ionawr 19eg, rhwng 4pm a 6pm. Yn y cyfnod heriol hwn, nid ydym wedi gallu trefnu nosweithiau rhieni wyneb yn wyneb, felly er mwyn cadw cysylltiad â chi ar yr adeg hanfodol hon, rydym wedi trefnu digwyddiad ‘rhithiol’ trwy ‘School Cloud’ a fydd yn eich galluogi i archebu galwadau fideo 4 munud gydag athrawon eich plentyn rhwng yr amseroedd a nodir uchod.
Mae’r ysgol wedi cyflwyno system archebu apwyntiadau ar-lein newydd sy’n sythweledol ac yn hawdd ei defnyddio. Mae’n caniatáu i chi ddewis eich amseroedd apwyntiad eich hun gydag athrawon a byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau eich apwyntiadau. Rydym yn hyderus y bydd hwn yn brofiad gwerth chweil i chi ac yn gyfle da i glywed am gynnydd eich plentyn, ond rydym yn croesawu unrhyw adborth.
Gellir gwneud apwyntiadau o 9.00am Dydd Mercher 13eg Ionawr hyd at Ddydd Mawrth 19eg Ionawr am hanner dydd. Os hoffech wneud unrhyw newidiadau ar ôl y dyddiad hwn, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r tîm bugeiliol.
Ewch i https://ysgolaberconwy.schoolcloud.co.uk i archebu’ch apwyntiadau. Mae canllaw byr ar sut i ychwanegu apwyntiadau wedi’i gynnwys gyda’r llythyr hwn, yn ogystal â chod ymddygiad, yr ydym yn gofyn yn barchus i chi ei ddarllen a’i ddilyn ar y noson.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i fewngofnodi:
Enw Cyntaf y Myfyriwr, Cyfenw’r Myfyriwr a’u Dyddiad Geni, yn ogystal â’ch manylion eich hun.
Rydym wedi postio amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu gyda’r system hon ar ein gwefan yma:
https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/events/parents-evenings, ond os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu.
Rydym ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi ar y noson!
Yn gywir iawn
Ian Gerrard
Pennaeth
I lawrlwytho/brintio'r llythyr cliciwch yma
Canllaw i Rieni ar gyfer Archebu Apwyntiadau
Browse to https://ysgolaberconwy.schoolcloud.co.uk/
|
Cam 1: Mewngofnodi Llenwch y manylion ar y dudalen a chliciwch ar y botwm Log In. Anfonir cadarnhad o’ch apwyntiadau i’r cyfeiriad ebost a ddarperir gennych.
|
|
Cam 2: Dewiswch Noson Rhieni Cliciwch ar y dyddiad yr ydych am ei archebu. Methu gwneud pob un o’r dyddiadau a restrir? Cliciwch ‘I’m unable to attend’. |
|
Cam 3: Dewiswch Booking Mode Dewiswch Automatic os hoffech i’r system awgrymu’r amserlen apwyntiadau fyrraf posibl yn seiliedig ar yr amseroedd rydych chi ar gael i’w mynychu. I ddewis yr amseroedd i’w harchebu gyda phob athro, dewiswch Manual. Yna gwasgwch Next. Rydym yn argymell dewis y modd archebu awtomatig wrth bori ar ddyfais symudol.
|
|
Cam 4: Dewis Athrawon Os dewisoch y modd archebu awtomatig, llusgwch y llithryddion ar ben y sgrin i nodi’r amser cynharaf a’r hwyraf y gallwch fynychu. Dewiswch yr athrawon yr hoffech drefnu apwyntiadau â nhw. Mae tic gwyrdd yn dangos eu bod wedi’u dewis. I ddad-ddewis, cliciwch ar eu henw – nodwch mai dim ond hyd at 8 apwyntiad y byddwch chi’n gallu eu harchebu
|
|
Cam 5a (Awtomatig): Archebu Apwyntiadau Os dewisoch y modd archebu awtomatig, fel welwch apwyntiadau dros-dro a ddelir am 2 funud. I’w cadw, dewiswch Accept ar y chwith isaf. Os nad oedd yn bosibl i archebu pob athro a ddewiswyd yn ystod yr amseroedd y gallwch fynychu, gallwch naill ai newid yr athrawon yr ydych yn dymuno cyfarfod â nhw a rhoi cynnig arall, neu newid i’r modd archebu â llaw (Cam 5b).
|
|
Cam 5b (Â Llaw): Archebu Apwyntiadau Cliciwch unrhyw rai o’r celloedd gwyrdd i wneud apwyntiad. Mae celloedd glas yn dynodi lle lle mae gennych apwyntiad yn barod. Mae celloedd llwyd yn dynodi nad yw’r amser ar gael. I newid apwyntiad, dilëwch y gwreiddiol trwy hofran dros y blwch glas a chlicio Delete. Yna dewiswch amser arall. Gallwch ddewis gadael neges i’r athro i ddweud beth yr hoffech ei drafod, neu godi unrhyw beth ymlaen llaw. Pan fyddwch wedi gorffen archebu apwyntiadau, ar ben y dudalen yn y blwch alert, gwasgwch click here i ddod â’r broses archebu i ben. |
|
Cam 6: Wedi Gorffen Mae eich holl archebion bellach yn ymddangos ar dudalen My Bookings. Anfonwyd cadarnhad trwy ebost a gallwch hefyd argraffu apwyntiadau trwy wasgu Print. Cliciwch Subscribe to Calendar i ychwanegu’r rhain ac unrhyw archebion yn y dyfodol i’ch calendr. I newid eich apwyntiadau, cliciwch ar Amend Bookings. |
PROTOCOL AR GYFER NOSWEITHIAU RHIENI RHITHIOL
Gan fod nosweithiau rhieni rhithiol yn bethau newydd i ni roeddem o’r farn ei fod yn bwysig i sefydlu rhai rheolau sylfaenol fel bod yr holl gyfranogwyr yn dilyn yr un protocol a ddylai sicrhau lles pawb.
· Dylid cynnal sgyrsiau mewn ystafelloedd priodol e.e. y gegin, lolfa, stydi ac nid mewn ystafell wely
· Dylai’r holl gyfranogwyr wisgo’n briodol fel y byddent ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb bywyd go iawn
· Ni ddylid recordio unrhyw sgyrsiau
· Os ydych chi’n defnyddio dyfais gyda, er enghraifft, FaceTime neu WhatsApp i alluogi dau riant o wahanol aelwydydd i fynychu ar yr un pryd, os gwelwch yn dda rhowch wybod i’r athro fel mater o gwrteisi ar ddechrau’r sgwrs
· Mae gan athrawon a rhieni ddewis i ddefnyddio sain neu fideo
· Fel mewn bywyd go iawn, mae croeso i’ch mab/merch fynychu
· Os gwelwch yn dda ceisiwch fod yn brydlon gan nad yw’r amseroedd yn hyblyg o gwbl a byddant yn dechrau/gorffen ar yr union amser a drefnwyd
· Mae 30 eiliad cyntaf bob sgwrs yn caniatáu seibiant byr i’r athro a fydd yn cychwyn y sgwrs ar ryw bwynt pan fydd yn barod yn ystod y cyfnod hwn
· Mae Ysgol Aberconwy yn cael ei chanmol yn aml am ei pherthnasoedd cadarnhaol, adeiladol rhwng staff a rhieni ac mae’n bwysig bod hyn yn parhau. Felly nodwch, os gwelwch yn dda, pe gyfyd achos o gam-drin geiriol, er mor annhebygol yw hynny, y bydd staff yn dod â’r sgwrs i ben ac yn cyfeirio’r mater at yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.