Mae'r maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae'r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, tra bod ganddynt eu corff ar wahân eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Gellir cyflwyno dysgwyr hefyd i ddisgyblaethau cyflenwol eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bo'n briodol.
Mae’r Dyniaethau’n ceisio deffro synnwyr o ryfeddod, tanio’r dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r maes hwn yn annog dysgwyr i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaliadwyedd a newid cymdeithasol, a helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddehongli a chyfleu’r gorffennol a’r presennol. Bydd yn helpu dysgwyr i ddod yn uchelgeisiol, galluog a pharod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
Cliciwch ar y botymau isod i weld ein prosiectau: