Annwyl Riant / Ofalwr,
Yn gyntaf, gadewch imi ddweud gymaint o bleser oedd gweld eich plant yn ôl yn yr ysgol dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Gobeithio eu bod wedi mwynhau cysylltu â'u ffrindiau a'u hathrawon eto, ac wedi gallu canolbwyntio ar fynd yn ôl i drefn yr ysgol a gofynion byrddau arholi ar gyfer eu cymwysterau yr haf hwn.
Gyda hyn mewn golwg, rwy'n ysgrifennu gyda diweddariad a rhywfaint o wybodaeth bwysig i chi ar y ffordd y bydd cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu hasesu yr haf hwn. Gallwch ddod o hyd i lythyr, wedi'i gyfeirio at fyfyrwyr ledled Cymru, YMA, a manylion y pethau y byddwn yn eu gwneud fel ysgol isod.
Byddwch eisoes yn gwybod:
Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau y bydd rhai myfyrwyr yn ei deimlo wrth i'r broses casglu tystiolaeth barhau dros yr wythnosau nesaf, ac rydym am eich sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu cwestiynau a thasgau mor sensitif â phosibl yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall myfyrwyr a fyddai fel arfer yn disgwyl gofynion mynediad ychwanegol fod yn dawel eu meddwl y bydd y rhain ar waith yn ôl yr angen.
Teimlwn mai un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i helpu yw rhoi gwybodaeth gywir ac amserol i chi. Felly hoffem eich gwahodd i:
Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ichi ac y cymerwch amser i edrych drwyddi gyda'ch mab neu ferch i'w cefnogi ar yr adeg bwysig hon. Os gallwn gynnig unrhyw gymorth, arweiniad neu gefnogaeth bellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu.
Yn gywir iawn
Ian Gerrard
Pennaeth