Ysgol Aberconwy's Virtual Learning EnvironmentLike Ysgol Aberconwy on FacebookFollow Ysgol Aberconwy on Twitter      
 
Dydd Llun, 11 Tachwedd 2019 15:03

Sioe Gerdd Billy Elliot

Mae Ysgol Aberconwy yn falch o gyflwyno’r Sioe Gerdd Billy Elliot.

Mae ein disgyblion wedi bod yn gweithio’n galed iawn i baratoi ar gyfer y Sioe, sydd nawr ar y gorwel!

Mae’r perfformiadau ar 25ain,26ain,27ain, 28ain a’r 29ain o Dachwedd.

Drysau ar agor 6.45yh a’r perfformiad yn cychwyn am 7yh.

Ffoniwch 01492 593243 i archebu tocynnau. £8 yr un i Oedolion a £5 yr un i Blant, Myfyrwyr a Phensiynwyr.

Mae disgyblion a staff Ysgol Aberconwy yn dathlu canlyniadau gorau erioed: llwyddodd pob disgyblion i gael mynediad i Brifysgol o’u dewis nhw ac mae’r perfformiad hwn yn gosod yr ysgol yn y 25% uchaf ym Mhrydain.
 
Llongyfarchiadau arbennig i Ruth Dean sydd yn awr gam yn nes tuag at gwireddu ei huchelgais o fod yn feddyg. Bydd Ruth yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio meddygaeth ar ôl cyflawni blwyddyn o waith gwirfoddol gydag elusen feddygol yn Israel. Rydym hefyd yn falch iawn o Tom Rushton a lwyddodd i gael 5 Lefel A (A*, A, A, B, C).
 
Cafwyd berfformiadau rhagorol gan Charlotte McNabb (Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff - Worcester) Miriam Allardice (Gwyddoniaeth Naturiol - Durham) Elizabeth Morgan (Mathemateg - Aberystwyth) Shona Roberts (Adferiad mewn Chwaraeon - Salford) Alex Miller-Smith (Busnes a Chyfrifeg - Manceinion) Luca Hughes (Syrfëwr Meintiau - Brookes, Rhydychen). Llongyfarchiadau arbennig i Spencer Ward a dderbyniodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Daearyddiaeth Dynol.
 
Mae’r ysgol yn hynod falch i gyhoeddi fod pob disgybl a ymgeisiodd i fynd i’r Brifysgol yn awr yn edrych ymlaen  astudio pob math o gyrsiau sy’n cynnwys Saesneg a’r Cyfryngau, Peirianaeth y Gofod, Peirianaeth yr Amgylchedd, Astudiaethau Drama a Theatr.
 
Llongyfarchodd y Pennaeth, Ian Gerrard yr holl ddisgyblion a’r staff ar y canlyniadau hyn a dymunodd pob llwyddiant i’r dyfodol. Dywedodd “Rwyf yn hynod falch â chyflawniadau’n disgyblion eleni ac rwy’n falch o weld fod ein disgyblion ar fin cychwyn cyrsiau amrywiol ar draws Prydain. Dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol ac edrychwn ymlaen i glywed am eu llwyddiannau yn y dyfodol.”

Mae Ysgol Aberconwy yn falch o gyhoeddi, ar ôl ymweliad gwerthuso diweddar gan CReSTeD (Cyngor Cofrestru Ysgolion sy’n Dysgu Disgyblion â Dyslecsia), y dyfarnwyd statws CReSTeD iddi unwaith eto, am yr unfed flwyddyn ar ddeg.

Mae Ysgol Aberconwy yn un o ddwy ysgol uwchradd yn unig yng Nghymru i ymddangos ar restr ysgolion CReSTeD, ac yn dilyn ymweliad diweddar, mae Bwrdd CResTeD wedi cymeradwyo’r ysgol am dair blynedd arall.

Mae statws CReSTeD yn cydnabod bod Ysgol Aberconwy, fel ysgol gyfan, yn bodloni meini prawf penodol ar gyfer darparu cymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia, dyspracsia ac ADHD yn ogystal ag ASD

Mae'r Pennaeth Mr Gerrard, Helen Samuel yr athro Dyslecsia Arbenigol ar gyfer ABCD (adnodd dyslecsia Awdurdod Lleol Conwy yn Ysgol Aberconwy) a Clare Hodgson ALNCo, yn falch bod yr ysgol wedi cynnal ei statws CReSTeD.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys craffu'n fanwl ar gofnodion, trafodaethau gyda rhieni a disgyblion, ac arsylwi gwersi, gan gymryd i ystyriaeth holl feysydd ac agweddau'r ysgol, nid yn unig yr adnodd ABCD. Cymeradwyodd cynrychiolydd CReSTeD nifer o bethau, gan gynnwys darpariaeth yr ysgol i sicrhau bod pob myfyriwr yn darllen am 20 munud yn yr ysgol bob dydd, ac mae'r polisi hwn wedi ysbrydoli penaethiaid CReSTeD eraill i ystyried cyflwyno'r polisi hwn yn eu hysgolion eu hunain.

Dywedodd Mr Gerrard, "Fel ysgol, rydym yn hynod falch bod ein safle yn gartref i adnodd ABCD fel rhan o'r gefnogaeth y gallwn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Aberconwy. Mae'n bwysig rhoi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr lle mae ei angen, tra'n caniatáu iddynt barhau mewn addysg brif ffrwd ar yr un pryd - mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ffodus i’w gael. "

Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019 15:01

Torri Tir Newydd

Yn ddiweddar, safodd April Ehlke-West, myfyriwr Blwyddyn 12, brawf hyfedredd Tsieinëeg HSK Lefel 1. Enillodd April, sy’n un o fyfyrwyr mwyaf abl yr ysgol mewn Tsieinëeg Mandarin, farciau llawn – 100/100, sy’n gyflawniad gwych.

Prawf safonedig yw Hanyu Shuiping Kaoshi Tsieina, a elwir yn “HSK” neu Brawf Hyfedredd Tsieinëeg, a ddatblygwyd gan Ganolfan Brawf HSK ym Mhrifysgol Iaith a Diwylliant Beijing (BLCU). Ei bwrpas yw asesu hyfedredd iaith siaradwyr anfrodorol mewn Tsieinëeg ac mae’n darparu safon fyd-eang y gellir ei defnyddio ar gyfer derbyniadau i brifysgol a cheisiadau am swyddi.

Teithiodd April, y myfyriwr cyntaf o Ysgol Aberconwy i sefyll prawf HSK, i Brifysgol Manceinion ym mis Mawrth i sefyll ei harholiad. Mae cyflawniad April yn fwy arbennig fyth gan ei bod hi’n dysgu Mandarin yn ei hamser rhydd, yn ogystal ag astudio llawn amser ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant. Zhùhè April!

O farathon Conwy i farathon Paris, heb anghofio marathon nodedig Llundain, mae pedwar cydweithiwr o Ysgol Aberconwy wedi llwyddo i gwblhau’r gamp o redeg marathon yn ddiweddar!

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda phob rhedwr marathon i glywed y manylion…

Gosododd Lynn Jones, CP y Pennaeth, nod iddi hi ei hun o gwblhau ei marathon cyntaf erioed eleni. Ar ôl cwblhau nifer o rasys hanner marathon, roedd hi’n awyddus am fwy o her. Penderfynodd gymryd rhan ym Marathon Conwy cyntaf erioed, a oedd yn cynnwys dwy her anhygoel – y Gogarth Fawr a Bryn Penrhynside! O ystyried mai marathon cyntaf ydyw, heb os gwthiodd ei hun i'r eithaf gyda'r un hwn! Nawr bod y llwch wedi setlo, meddai Lynn “Rwy'n falch iawn o'm cyflawniad, yn enwedig gan na wnes i stopio unwaith! Er fy mod wedi dweud na fyddwn i byth yn rhedeg marathon arall eto yn y dyddiau yn dilyn y digwyddiad, rwy'n credu fy mod i wedi dal y byg, gan fy mod i wedi rhoi fy enw i mewn ar gyfer Llundain 2020!”

Llwyddodd athro Ricky Jones i gyflawni’r un gamp drwy gwblhau ei farathon cyntaf erioed eleni hefyd, ond y tro yma ar strydoedd Llundain lle bu’n mwynhau’r torfeydd a oedd wedi ymgynnull o bob cwr o’r byd. Dywedodd, “Roeddwn yn anelu am lai na phedair awr a llwyddais i wneud hynny, felly rwy'n falch iawn o hynny. Hefyd codais dros £2,500 ar gyfer Achub y Plant, sy'n swm gwych i helpu elusen mor deilwng wneud y gwaith y maent yn ei wneud gyda phlant ledled y DU a ledled y byd.”

Wrth sodlau Ricky roedd athrawes arall, Liz Brookes, a ymunodd â Ricky a’r 42,547 o redwyr eraill a groesodd y llinell derfyn yn Llundain eleni. Gwnaeth Liz gais 10 gwaith i gael lle drwy bleidlais gudd ar gyfer Marathon Llundain ac eleni daeth ei breuddwyd yn wir! Mae Liz wedi cwblhau rhai marathonau o'r blaen ond fel y mae'n disgrifio, “nid oes dim yn cymharu â maint a sŵn Llundain, roedd yn brofiad mor unigryw. Roeddwn hefyd yn rhedeg i godi ymwybyddiaeth ac arian i Feddyliau Ifanc. Mae'r elusen yn cefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl ac yn lobïo'r llywodraeth am fwy o arian. Byddwn wrth fy modd yn gwneud Marathon Llundain eto os ydw i'n ddigon ffodus i gael lle.”

Yn olaf, daw’r athrawes Ann Bradshaw, a benderfynodd ymweld â golygfeydd Paris wrth wneud marathon. Mae Ann yn cyfaddef ei bod hi’n chwilio’n barhaus am farathonau, ac mae ei lle ym Marathon Paris wedi ei drefnu eisoes, gyda marathon arall i ddod ym mis Hydref eleni! Ar ôl dal i fyny ag Ann, eglurodd “does dim ots faint o weithiau rydw i'n rhedeg marathon, ar fore'r digwyddiad, rydw i bob amser yn teimlo'n nerfus iawn ac mae fy stumog yn troi, ond unwaith y bydd y ras yn dechrau ac rwy'n setlo i mewn i’r drefn arferol rwy’n dechrau ei fwynhau eto. Eleni, llwyddais i godi £250 ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's ac rwy'n hapus iawn am hynny hefyd. ”

Felly dyna chi, pedwar aelod staff a phedwar llwyddiant mewn marathon! Llongyfarchiadau i bawb ohonoch, fel ysgol rydym yn falch iawn ohonoch i gyd.

Yn ddiweddar daeth aseswyr o Dîm Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cynulliad Cymru ar yweliad ag Ysgol Aberconwy i gynnal arolwg o ddau faes allweddol y safon, sef cefnogaeth sefydliadol a materion iechyd penodol. Yn dilyn yr arolwg, dyfarnwyd Gwobr Arian y Safon Iechyd Corfforaethol i'r ysgol.

Cydnabu'r aseswyr y newidiadau sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd diwethaf, rôl y Pennaeth wrth arwain y newid, a'r penderfyniad i roi pobl yn gyntaf drwy gynnwys myfyrwyr a staff nid yn unig o fewn cwmpas polisïau ond hefyd mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a mentrau i gefnogi iechyd a lles.

Mae’r Safon Iechyd Corfforaethol yn daith barhaus o arfer da a gwelliant, a gellir ei ddefnyddio fel offeryn i gefnogi datblygiad polisïau sy’n hybu iechyd a lles gweithwyr. Mae'r safon yn cael ei mesur ar ddwy agwedd, sef cefnogaeth sefydliadol sy'n ystyried ethos a diwylliant mewn sefydliad ac yn edrych ar feysydd fel ymrwymiad lefel uwch, ymgysylltiad gweithwyr a rheoli iechyd a diogelwch. Mae'r ail agwedd, materion iechyd penodol, sy'n edrych ar reoli materion afiechyd y gellir eu hatal yn y gweithle, yn canolbwyntio ar feysydd fel iechyd meddwl a lles, diet a gweithgarwch corfforol.

Tynnodd yr adroddiad sylw at lawer o fanteision yn Ysgol Aberconwy o ran y Safon Iechyd Corfforaethol, er enghraifft, penodi Cydlynydd Lles a'r pwyslais ar ddiogelwch, iechyd a lles sy’n amlwg drwy’r ysgol ac yn ein perthynas waith agos â Sodexo. .

Dywedodd Rhydian Jones, Cydlynydd Lles Ysgol Aberconwy, “Rydw i wrth fy modd fel ysgol ein bod wedi ennill y wobr Arian. Rydw i’n hapusach fyth gyda'r ffaith mai ni yw’r ysgol uwchradd gyntaf yng Nghymru i gyflawni'r statws hwn. Mae'n dangos yr ymrwymiad clir a chryf sydd gennym yn yr ysgol i iechyd a lles myfyrwyr a staff.”

“Fel ysgol rydym yn cymryd iechyd a lles o ddifrif ac rwy'n falch o weld y gwaith caled gan staff a myfyrwyr wedi cael ei wobrwyo gyda chyflawniad Gwobr Arian Iechyd Corfforaethol. Yn awr rydym am anelu am y wobr platinwm, a byddwn fel un tîm yn gweithio tuag at hyn, tra'n dilyn ein harwyddair lles ysgol, sef ein bod ni’n gweithio'n dda pan ydym yn dda i weithio” ychwanegodd Ian Gerrard, y Pennaeth.

Yn dilyn proses ymgeisio heriol a thrwyadl, dewiswyd tri myfyriwr o Ysgol Aberconwy i dderbyn Gwobr fawreddog Cwmni Anrhydeddus Urdd Lifrau Cymru ar gyfer Ysgolion. Ddydd Gwener, Ebrill 12fed cyflwynodd Jean Bryson eu gwobrwyon i Nina Rowlands (Blwyddyn 9), Edward Griffith (Blwyddyn 10) a Geneva Henson (Blwyddyn 10), yn dilyn cyfweliadau ffurfiol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2019.

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Urdd Lifrau Cymru i hyrwyddo addysg, celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg a thrwy gyfrwng eu gwobrwyon gallant ddatblygu talentau pobl ifanc ledled Cymru. Esboniodd Jean Bryson, “Byddem fel arfer yn dewis dau fyfyriwr i ennill y wobr, ond oherwydd safon uchel iawn y ceisiadau eleni, fe benderfynon ni ddyfarnu gwobrau i dri myfyriwr. Mae'n bleser gennyf gyflwyno eu gwobrau i'r myfyrwyr hyn, nid yn unig y bydd hyn yn helpu gyda'u haddysg bresennol ond bydd yn eu gosod ar y trywydd iawn ar gyfer y dyfodol sydd o'u blaenau hefyd.”

Cyflwynwyd tystysgrifau mewn ffrâm i bob myfyriwr a chawsant wobr ariannol i gynorthwyo gyda’u hanghenion addysgol parhaus. Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda’r myfyrwyr hynny i ddarganfod sut maen nhw'n bwriadu gwario'r arian a gawsant.

 “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn £250 a byddaf yn ei ddefnyddio i brynu gitâr Electro-Acwstig. Bydd y gitâr hon, ynghyd â’m hyfforddiant lleisiol parhaus yn rhoi hwb pellach i’m hyder, ac yn fy ngalluogi i deimlo’n fwy cyfforddus wrth berfformio o flaen gwahanol gynulleidfaoedd” meddai Edward.

Yn y cyfamser, dywedodd Nina wrthym ei bod yn bwriadu rhoi’r arian tuag at brynu gliniadur newydd. “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i dderbyn £125 a byddaf yn ei ddefnyddio i brynu fy ngliniadur fy hun. Bydd cael fy ngliniadur fy hun yn golygu y gallaf gario llai o lyfrau a bydd hefyd yn gyswllt â’m cyfrif ysgol, sy’n golygu y gallaf orffen gwaith ysgol gartref, gan y bydd gennyf fynediad llawn i Office 365.”

Ychwanegodd Geneva, “Rwy’n ddiolchgar iawn am gael derbyn £125 a byddaf yn ei wario ar diwtor preifat ar gyfer mathemateg i’m helpu i wella fy ngraddau ymhellach a rhoi mwy o hyder i mi yn y pwnc hefyd!”

Yn dilyn cyflwyno’r gwobrau dywedodd Mr Ian Gerrard, y Pennaeth, “Rwyf yn hynod falch ein bod wedi derbyn nid dwy wobr ond tair eleni, i fyfyrwyr sydd wedi dangos agwedd weithgar a chydwybodol tuag at eu hastudiaethau. Fel bob amser, mae’n bleser mawr cael gweithio gyda Jean a’r Urdd ac rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle maen nhw wedi’i roi i’n myfyrwyr.”

Yn Ysgol Aberconwy rydym yn falch o weld bod y ffeithiau yn y ffigurau. Mae’r ystadegau a ryddhawyd yn ddiweddar gan ‘Fy Ysgol Leol’ yn dangos bod y cynlluniau a roddwyd ar waith yn yr ysgol eisoes yn dangos gwelliannau sylweddol i’n perfformiad yn gyffredinol.

Mae’r wefan ar gyfer Fy Ysgol Leol, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, wedi’i chynllunio i roi’r gallu i rieni, warcheidwaid ac eraill sydd â diddordeb yn eu hysgol leol gael mynediad i ddata ysgol a rhannu gwybodaeth am berfformiad yr ysgol. Mae hyn yn darparu ffynhonnell wybodaeth dryloyw ac agored sydd ar gael yn eang i bawb, gan alluogi defnyddwyr i groesgyfeirio perfformiad ysgolion lleol yn eu hardal hwy.

Yn Ysgol Aberconwy, rydym wrth ein bodd gyda’n safle fel un o’r ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg uchaf yng Nghonwy, gyda phresenoldeb ein myfyrwyr y gorau yn y sir a nifer y myfyrwyr sy’n cyflawni 5A*/A ar lefel TGAU yn uwch nag erioed.

Nid yn unig hynny, ni hefyd yw’r unig ysgol uwchradd yng Nghonwy gyda 100% o fyfyrwyr yn cyflawni o leiaf pum TGAU (A*-G). Yn ogystal, mae tri chwarter o’n myfyrwyr yn cyflawni trothwy lefel 2 (pum TGAU A*-C) gyda dros hanner o’r rhain yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg TGAU.

Mae ein canlyniadau arholiad ynghyd â’r sylwadau a wnaed gan Estyn yn eu harolwg diweddaraf o’r ysgol yn dangos ein bod ar y trywydd iawn yma yn Ysgol Aberconwy. Nododd yr arolygwyr yr “ethos cynhwysol, cefnogol a meithringar” yr ydym yn ei ddarparu yma yn yr ysgol, sy’n cael “effaith fuddiol sylweddol ar les a datblygiad personol disgyblion”. Os ychwanegir at y sylwadau hyn ein cred ddiysgog bod myfyrwyr yn ffynnu mewn amgylchedd cefnogol, trefnus sy’n cyfuno gwerthoedd traddodiadol ag adnoddau cyfoes, mae’r holl dystiolaeth yn dangos llwyddiant cynyddol yr ysgol.

Dywedodd Mr Gerrard, y Pennaeth “Rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr a’u cyflawniadau. Fe’u disgrifiwyd fel myfyrwyr cwrtais a pharchus ac mae ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu. Rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gan ein myfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y byd modern ac yn ceisio eu harwain ar y llwybr i fod yn unigolion hapus a hyderus drwy gyfuniad cytbwys o brofiadau a chymwysterau.

Gan symud ymlaen fel ysgol, byddwn yn parhau i weithio ar gynllun datblygu’r ysgol, gyda chymorth rhieni, gofalwyr, myfyrwyr a staff, wrth i ni ymdrechu i fyw ein cenhadaeth i ysbrydoli, cefnogi a llwyddo.”

I gael rhagor o wybodaeth am Fy ysgol Leol, ewch i: http://mylocalschool.wales.gov.uk/?lang=en

Mae Cerys Eless, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer BTEC mewn Cerddoriaeth Boblogaidd yn Ysgol Aberconwy, wedi cael ei dewis i berfformio’n fyw yn Ffocws Cymru, gŵyl arddangos ryngwladol sy’n ffocysu ar dalent newydd, ym mis Mai eleni. Yn ogystal â hynny, yn ddiweddar bu’n recordio dwy o’i chaneuon newydd a ddarlledwyd ar y radio, ac mae wedi sicrhau lle iddi hi ei hun yn Sefydliad BIMM mawreddog Manceinion!

Bu gan Cerys ddiddordeb yn ngherddoriaeth er pan oedd yn ifanc iawn, gan ysgrifennu caneuon pan oedd yn 11, a pherfformio’n fyw yn 15 oed. Erbyn hyn, mae i’w chlywed ar radio cenedlaethol, a phwy a ŵyr lle gallai hyn fynd â hi nesaf. Ym mis Medi 2019 bydd yn cychwyn ar ddiploma ysgrifennu caneuon yn BIMM, a chyda’i ffocws a’i hymroddiad bydd hyn yn hwb mawr i’w gyrfa o fewn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae Cerys eisiau dilyn gyrfa yn gwneud yr hyn mae’n ei garu. Disgrifir ei cherddoriaeth fel cymysgedd o gerddoriaeth boblogaidd indie a’r enaid, gyda pheth blws hefyd ac mae’n tynnu ar ei dylanwadau cerddorol i’w hysbrydoli i greu caneuon newydd. Meddai Cerys, “Yr amser gorau i greu cân newydd yw pan fydd fy emosiynau’n rhemp. Y peth gorau yw cyfeirio emosiwn cignoeth drwy ysgrifennu caneuon, mae’n rhaid i chi ei wneud ar y funud a pheidio colli’r cyfle, achos weithiau dyma pryd rydych chi’n creu eich darnau gorau.” Pan nad yw’n ysgrifennu ei chaneuon ei hun, mae wrth ei bodd yn gwrando ar Adele, Sam Smith, Ed Sheeran, Emeli Sande a Lewis Capaldi.

Mae Cerys nid yn unig yn jyglo bywyd fel person ifanc yn ei harddegau a myfyriwr gyda gwyliau ysgol a dreulir mewn stiwdios recordio lleol, ond hefyd bu’n westai ar Calon FM (Wrecsam) lle perfformiodd ddwy o’i chaneuon newydd, un o’i EP presennol, a sgwrsio â Pete Rogers am ei pherfformiad arfaethedig yn Ffocws Cymru. Nid Calon FM yn unig sydd wedi sylwi ar ei thalent, gan fod Adam Walton hefyd wedi chwarae tri o’i thraciau gwreiddiol, gan gynnwys un o’i chaneuon newydd, ‘Emotionally Unattached’ i’w wrandawyr ar ei raglen gyflwyno nos Sadwrn ar BBC Radio Wales.

Fe wnaethom ddal i fyny â Cerys i weld beth mae’n edrych ymlaen ato fwyaf yn y dyfodol. Dyma oedd ganddi i’w ddweud …

“Wrth i mi baratoi ar gyfer Ffocws Cymru rwy’n dechrau teimlo cymysgedd o nerfau a chyffro ond mae’n siŵr bod hynny’n normal. Rwy’n edrych ymlaen at fynd ar y llwyfan a pherfformio fy nghaneuon o flaen cynulleidfa fwyaf fy ngyrfa gerddorol hyd yma.

Mae’r teimlad rwy’n ei gael wrth berfformio ar lwyfan yn anhygoel ac rwyf eisiau profi’r profiad hwn bob dydd, gan berfformio o flaen gwahanol gynulleidfaoedd fel eu bod nhw’n gallu clywed beth ydw i a beth sydd gen i i’w gynnig.

Rwy’n ffodus o gael fy nheulu a’m ffrindiau o’m cwmpas gan eu bod nhw’n fy nghefnogi a galla’i ddim diolch digon i fy nhad, gan mai ef yw’r un sy’n mynd â fi i’m holl wersi, gigiau a chlyweliadau.

Rydw i mor gyffrous ynglŷn â dechrau yn BIMM fis Medi, gan mai hwn yw fy nghyfle i ffocysu ar wneud yr hyn rwy’n ei garu a mynd â’m gyrfa gerddorol i’r lefel nesaf!”

Dywedodd Andrew Umpleby, athro Cerddoriaeth Boblogaidd Ysgol Aberconwy, “Mae pawb ohonom yn falch iawn o lwyddiannau Cerys hyd yma. Mae ganddi allu naturiol i ysgrifennu a pherfformio a chydag ychydig o gymorth bydd yn mynd yn bell. Mae’n gyfnod cyffrous i Cerys a’i theulu a fedrwn ni ddim aros i weld beth sy’n dod nesaf iddi.”

Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2019 14:11

Mae’r Ddraig ar fin glanio yn Ysgol Aberconwy.

Ysgrifenwyd gan James a Lewis

Mae disgyblion astudiaethau’r Cyfryngau yn falch o gyhoeddi y bydd ‘Glaniad y Ddraig’ yn cael ei pherfformio gan bypedwyr gwych y puppetSou, yn Neuadd yr Ysgol ar Ddydd Mercher Mawrth 13eg am 7 y.h.

Mae tocynnau ar werth nawr am £5 yr un. Maen nhw ar gael o flaen llaw o dderbynfa’r ysgol, a bydd nifer cyfyngedig ar gael wrth y drws hefyd.

Disgrifir ‘Glaniad y Ddraig’ fel darn pum seren gweladwy ac emosiynnol sy’n addas ar gyfer pob oed. Yn ystod y sioe byddwch yn profi antur drwy amser, tirlun a chwedlau byd y ddraig Gymreig!

Eglurodd ‘PuppetSoup’ “Mi fyddwn yn mynd a chi ar flaen eich cadair ac i fyd dychmygol yn y stori deimladwy hon a ysbrydolwyd gan llên gwerin a chwedlau Cymru. Ymhlith rhain cawn chwedlau a myth heb eu clywed lawer o’r blaen o fydd hudolus ble y tyfir dynion o bair gwrach ac mae dreigiau yn bodoli go iawn!”

Mae disgyblion Cyfryngau Blwyddyn 10 wedi bod yn cydweithio gyda PuppetSoup i hybu’r cynhyrchiad cyffrous hwn i’r gymuned leol a thrwy werthu tocynnau ar gyfer y noson. Dyma sioe ddim i’w methu! Prynwch eich tocyn cyn ini eu gwerthu i gyd!

Eleni, bu Mrs Jones yn gweithio yn agos gyda grwp MAaTh blynyddoedd 8 a 9, ac ynghyd â Miss Veale a Mrs Ohlsson cafodd y disgyblion sialens i drefnu o fewn eu dosbarthiadau i gasglu bwyd tuag at Fanc Bwyd Conwy. Heddiw, bu 4 o'n disgyblion i Fae Colwyn i gludo'r bwyd. Y disgyblion oedd Sophie Parry a Nina Rowlands o flwyddyn 9 a Daniel Hawkins a Chloe Williams o flwyddyn 8. Rydym ni fel ysgol a'r banc bwyd yn gwerthfawrogi gwaith caled y disgyblion. Diolch i bawb a wnaeth roddi. 

Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018 09:54

Sêr Codi Arian ar gyfer Plant mewn Angen

Mae myfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi rhagori unwaith eto drwy chwalu eu targed codi arian ar gyfer Plant mewn Angen BBC 2019. Roedd yr ysgol gyfan yn ferw o gyffro yn ystod yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod Plant mewn Angen 2019, gydag amrywiaeth o weithgareddau codi arian wedi’u trefnu gan staff a myfyrwyr.

Mae’n amhosibl i sôn am bawb yn unigol a’u gorchestion codi arian, ond rhaid cyfeirio’n arbennig at ymdrechion rhyfeddol rhai o’n prif godwyr arian eleni.  

Ym mlwyddyn 8 yn unig, cawsom…

  • Alexi Walker a Lydia Roberts a drefnodd sesiwn torri gwallt noddedig ac yna roi eu gwallt i’r ‘Little Princess Trust’
  • Abby Battles a drefnodd amrywiaeth o deithiau cerdded noddedig
  • Hannah Royle a lwyddodd i gynnal tawelwch noddedig am 24 awr

Rhaid canmol hefyd y naw aelod o’r staff a lwyddodd i gwblhau Hanner Marathon Conwy ac i Rachel Moynihan am godi mwy na £100!

Yn ogystal, cawsom ddiwrnod dillad eich hun lle daeth rhai o’r myfyrwyr i’r ysgol mewn gwisg ffansi, ‘bake off’ i’r staff ac amrywiaeth o stondinau a chystadlaethau cyffrous yn y stiwdio ddrama ddydd Gwener Tachwedd 16eg, a drefnwyd ac a gynhaliwyd gan ein myfyrwyr.

Dywedodd Rhydian Jones, Cyfarwyddwr Dysgu ar gyfer lles a ABCI,

“Unwaith eto eleni rydw i wedi rhyfeddu at haelioni a menter cymuned gyfan Ysgol Aberconwy, wrth iddynt godi arian at achos mor werth chweil.

Mae natur ofalgar yr ysgol wedi dod i’r amlwg a bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at helpu i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc difreintiedig ledled y DU. 

Cawsom hwyl yn cefnogi Plant mewn Angen y BBC ac mae gwybod ein bod ni wedi codi £2,351.15 yn deimlad gwych. Nawr rydym yn edrych ymlaen at weld pa syniadau codi arian mentrus sydd gan gymuned Ysgol Aberconwy ar gyfer ein helusen lleol yn y Flwyddyn Newydd!”

Da iawn pawb a drefnodd weithgaredd codi arian ac a gyfrannodd arian tuag at achos mor deilwng.

Tudalen 1 o 7
Top