Mae pob disgybl yn perthyn i grwˆp tiwtor sy’n cynnwys bechgyn a merched o allu cymysg. Swyddogaeth y tiwtor ydy dod i adnabod y plant dan ei ofal/ei gofal a bod yn gyfrifol am weinyddiaeth pob dydd megis marcio’r gofrestr, archwilio’r wisg ysgol a darllen hysbysiadau dyddiol.
Mae Pennaeth Blwyddyn yn monitro cynnydd disgyblion o fewn y grwpiau tiwtor ac yn ysgrifennu sylwadau cryno ar adroddiadau.
Mae cynnydd disgyblion yn cael ei asesu’n rheolaidd mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer eu cyflawniad ym mhob maes cwricwlwm. Ar ddiwedd pob blwyddyn yng Nghyfnod Allweddol 3 ceir adroddiad ar Lythrennedd a Rhifedd. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 a 4 bydd rhieni yn derbyn adroddiad ar berfformiad eu plentyn mewn perthynas â lefelau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mhob pwnc craidd, sylfaenol a gorfodol Bydd disgyblion yn derbyn adroddiad interim bob hanner tym or ynghyd â’r gradd/lefel y mae disgwyl i’r disgybl ei gael ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol perthnasol yn seiliedig ar ei berfformiad cyfredol. Mae disgwyl i’r disgyblion fynd â phob adroddiad interim a’r adroddiadau llawn adref. Bydd Penaethiaid Blwyddyn a Mentoriaid Blwyddyn yn cyfarfod y disgyblion i drafod unrhyw faterion sy’n codi ac yn datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd lle mae’r disgybl yn tangyflawni. Cynhelir Nosweithiau Rhieni unwaith y flwyddyn. Maent yn cynnig cyfle pwysig i’r rhieni drafod cynnydd eu plentyn gyda’r athrawon ac rydym yn eich annog i’w mynychu. Mae gan bob disgybl gynllunydd personol ar gyfer cofnodi amserlenni, gwaith cartref a manylion eraill fel y bo’n briodol. Mae’n hollbwysig fod disgyblion yn cario eu cynllunydd gyda hwy bob amser. Gofynnwn i rieni eu llofnodi’n wythnosol gan fod Tiwtoriaid a Mentoriaid Blwyddyn yn eu harchwilio’n rheolaidd. Mae canlyniadau arholiadau’r llynedd i’w gweld yn yr atodiadau sy’n cael eu dosbarthu pan gyhoeddir Tablau Canlyniadau Arholiadau’r Llywodraeth. Bob blwyddyn mae mwyafrif ein disgyblion Blwyddyn 13 yn parhau â’u hastudiaethau mewn Prifysgolion neu Golegau Addysg Bellach.Asesu
Adroddiadau Interim a Monitro Cynnydd
Nosweithiau Rhieni
Cynllunwyr Disgyblion
Arholiadau Cyhoeddus