Mathemateg
MAE MATHEMATEG YN ORFODOL YNG NGHYFNOD ALLWEDDOL 4
Bydd pob disgybl yn sefyll arholiad TGAU Mathemateg-Rhifedd. Bydd y mwyafrif o ddisgyblion hefyd yn sefyll arholiadau Mathemateg TGAU gan ennill dau gymhwyster TGAU.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu’r disgyblaethau canlynol: Rhif, Algebra, Geometreg a Mesur, a Thebygolrwydd ac Ystadegau.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i:
- Ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o ddulliau a chysyniadau mathemategol
- Caffael a defnyddio strategaethau datrys problemau
- Dethol a chymhwyso technegau a dulliau mathemategol mewn sefyllfaoedd mathemategol bob dydd yn y byd go iawn
- Rhesymu’n fathemategol, gwneud diddwythiadau a rhesymiadau a llunio casgliadau
- Dehongli a chyfathrebu gwybodaeth fathemategol mewn amrywiol ffyrdd sy’n briodol ar gyfer yr wybodaeth a’r cyd-destun
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu sgiliau mewn:
- Rhifedd
- Datrys Problemau
- Meddwl yn Feirniadol
- Cynllunio a Threfnu