Hanes
TGAU
Beth fyddaf i’n ei astudio?
Uned 1: Astudiaeth Fanwl – Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad 1930 -1951. 25% o’r cymhwyster. Arholiad 1 awr
Uned 2: Astudiaeth Fanwl – Yr Almaen mewn cyfnod o Newid 1919 -1939. Arholiad 1 awr. 25% o’r cymhwyster. Mae’r uned hon yn astudio esgyniad Adolf Hitler i rym a sut beth oedd bywyd yn Yr Almaen dan y Natsïaid.
Uned 3: Astudiaeth Thematig – Newidiadau ym maes Trosedd a Chosb, 1500 hyd heddiw
Mae’r uned hon yn astudio’r digwyddiadau a’r personoliaethau a luniodd achosion trosedd, plismona a’r dulliau newidiol a ddefnyddiwyd i atal troseddu a’r dulliau newidiol o gosbi. 30% o’r cymhwyster. 1 awr 15 mun
Uned 4: Ymchwiliad i fater o ddadl neu wrthdaro hanesyddol. Bydd hwn yn cyfrif am 20% o’r radd TGAU derfynol.
Sut fyddaf i’n dysgu?
Byddwch yn ymuno â myfyrwyr eraill i dderbyn pum awr o ddysgu gan athro sy’n brofiadol ym maes Hanes ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp amrywiol.
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys llyfrau, DVDau, cyflwyniadau pwynt pŵer a’r rhyngrwyd. Yna byddwch yn dysgu drwy ofyn cwestiynau a gwneud nodiadau, mapiau meddwl a diagramau y gallwch gyfeirio atynt wrth adolygu. Pan fydd y cwrs wedi cychwyn, byddwch yn derbyn tua un darn o waith bob wythnos, gan amlaf ymchwiliad sy’n defnyddio amrywiaeth o wahanol ffynonellau.