Addysg Grefyddol
TGAU ADDYSG GREFYDDOL
Beth yw nod Addysg Grefyddol?
- Mae Addysg Grefyddol ym mhob man
- Mae Addysg Grefyddol yn ehangu eich meddwl
- Mae Addysg Grefyddol yn bleserus
- Mae Addysg Grefyddol yn eich paratoi ar gyfer bywyd
Pwnc difyr ac atyniadol a fydd yn werthfawr iawn i chi mewn bywyd. Wrth i chi dyfu a datblygu, mae’r byd o’ch cwmpas yn gwneud yr un fath. Po fwyaf eich gwybodaeth am y digwyddiadau a’r bobl sydd o’ch amgylch, mwyaf fydd y cyfraniad y gallwch ei wneud i ffenomen Bywyd.
Nod Addysg Grefyddol yw eich gwneud yn ymwybodol o’r gymdeithas amrywiol o’ch amgylch. Mae TGAU Addysg Grefyddol yn rhoi cyfleoedd i chi edrych yn fanylach ar Iddewiaeth a Christnogaeth, yn ogystal ag archwilio eich ymatebion i amrywiaeth eang o faterion cyfoes, moesol a chymdeithasol.
Mae’r cwrs TGAU yn eich annog i gydbwyso syniadau a chysyniadau crefyddol â’r profiad dynol. Mae cynnwys y cwrs yn cynnig digon o gyfle i werthuso ac ystyried eich barn a’ch safbwyntiau ac yn ceisio datblygu eich sgiliau meddwl yn annibynnol a’ch sgiliau gwrando er mwyn eich helpu i ddeall a gwerthfawrogi’r byd o’ch cwmpas.