Cefnogaeth Chweched Dosbarth

Cefnogir myfyrwyr yn llawn o'r eiliad y maent yn gwneud cais i'r Chweched Dosbarth a thrwy gydol eu hamser gyda ni.

Rydym yn cynnig:

  • tiwtor profiadol ac ymroddedig i bob myfyriwr
  • cefnogaeth i bob myfyriwr trwy'r rhaglen diwtorial a sesiynau cymorth unigol gyda'u tiwtor
  • Mentor Arweiniol pwrpasol sydd bob amser ar gael ar gyfer cysylltu a myfyrwyr a rhieni
  • cefnogaeth pwnc unigol gan athrawon pwnc profiadol
  • mynediad i amgylcheddau dysgu rhithwir gyda dysgu rhyngweithiol
  • cefnogaeth adolygu lawn yn arwain at arholiadau allanol
  • mynediad i ardal astudio breifat ynghyd â chyfleusterau TGCh
  • mynediad i ganolfan adnoddau o safon uchel
  • monitro rhagweithiol a thrylwyr o bresenoldeb a gwaith myfyrwyr
  • adroddiad ar gynnydd myfyrwyr bob hanner tymor ynghyd â Noson Rieni ac adroddiad blynyddol llawn
  • cymorth a chyngor manwl ar ddewis cwrs trwy broses gyfweld gyda'r holl ymgeiswyr
  • arweiniad addysg uwch a gyrfaoedd cryf
  • cymorth unigol gyda chwblhau ceisiadau UCAS
  • cymorth gydag LCA, benthyciad myfyriwr a cheisiadau grant
  • mynediad i lawer o asiantaethau allanol gan gynnwys cwnsela mewn ysgolion a gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion
  • cymorth ac arweiniad unigol gyda cheisiadau am gyflogaeth / prentisiaethau
  • cyngor a chefnogaeth fanwl ar ddiwrnodau canlyniadau arholiadau ac ar ôl hynny ar gyfer cyrsiau TGAU, UG ac A2
CY