Dydd Mercher, 23 Hydref 2019 10:15
Sesiwn diogelwch ar y we
Mi fydd Ysgol Aberconwy yn cynnal sesiwn Diogelwch ar y We ar gyfer rhieni er mwyn cefnogi diogelwch ar lein i blant.
Mi fydd y sesiwn hon yn cael ei gyflwyno gan Stop it Now Cymru, ac yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth, 19eg o Dachwedd o 6yh-8yh yn neuadd yr ysgol - mi fydd yn agored i rieni disgyblion o bob blwyddyn.
Os byddwch yn hoffi mynychu'r sesiwn, cysylltwch a swyddfa'r ysgol cyn yr 8fed o Dachwedd, 2019 i fynegi eich diddordeb.