Adroddiad Ysgol y BBC
Yn Ysgol Aberconwy, rydym yn falch o fod yn rhan o Adroddiad Ysgol y BBC!
Mae Adroddiad Ysgol y BBC yn broject newyddiaduriaeth ar gyfer myfyrwyr 11 i 18 oed ledled y DU. Rydym yn defnyddio Adroddiad Ysgol y BBC gyda’n disgyblion Chweched Dosbarth sy’n astudio’r Cyfryngau.
Maent yn cynllunio ac yn casglu straeon newyddion o fewn ac o gwmpas yr ysgol; yna rydym yn eu lanlwytho i’r tudalen hwn, sy’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol Adroddiad Ysgol y BBC. Mae hyn yn golygu bod ein newyddion ar gael i gynulleidfa fyd-eang y BBC. Bydd y BBC hefyd yn arddangos gwaith yr ysgol ar draws rhaglenni BBC yn y DU ar Ddiwrnod Newyddion, sef Dydd Iau, Mawrth 15fed 2018!
Mae bod yn rhan o Adroddiadau Ysgol y BBC yn caniatáu i’n disgyblion …
- lanlwytho eu gwaith a’u syniadau ar gyfer rhaglenni yn uniongyrchol i’r BBC lle gellir eu cynnig i wneuthurwyr rhaglenni
- fynychu digwyddiadau BBC yn ein hardal ni
- ddysgu amrywiaeth o sgiliau newyddiadurol a thechnegol gan staff, cyflwynwyr ac adnoddau ar-lein y BBC
- ddefnyddio brandio, graffeg ac animeiddiadau’r BBC yn eu hadroddiadau ac ar ein tudalen we
- wella llythrennedd digidol a chyfryngau
- ddefnyddio adnoddau sy’n cysylltu â chwricwlwm yr ysgol ar draws y DU
- adrodd am weithgareddau y mae ein hysgol yn ymgymryd â hwy, fel digwyddiadau ar gyfer BBC Plant mewn Angen a BBC Cymorth Chwaraeon
- gymryd rhan mewn project proffil uchel sy’n gweithio gyda channoedd o ysgolion a sefydliadau’r DU
Mwynhewch a rhowch wybod i ni a oes stori yr hoffech i’n newyddiadurwyr ysgol ei chynnwys drwy ebostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.