Ar 19 a 20 Rhagfyr aeth criw o fyfyrwyr ar genhadaeth brysur iawn yn canu cerddoriaeth Nadolig i drigolion rhai o’n cartrefi gofal a nyrsio canolfannau dydd a hosbisau lleol. Roedd y myfyrwyr yn rhagorol o ran eu perfformiadau lleisiol ond hefyd o ran eu gwydnwch anhygoel wrth berfformio mewn cymaint o leoliadau. Rhaid nodi hefyd pa mor falch ydym ni o’r ffordd y gwnaethant ddangos y fath ofal a thosturi tuag at yr holl bobl hyfryd y buont yn perfformio ar eu cyfer. Roedd yn weithgaredd werth chweil ac yn ffordd hyfryd o ddod â’n tymor i ben.