Diolch am ymweld â'n tudalen Cyfleoedd Gwaith. Bydd unrhyw swyddi gwag yn cael eu harddangos isod.
Athro Adnoddau Arbenigol
Athro Adnoddau Arbenigol: Awtistiaeth ac Anawsterau Niwroddatblygiadol
Yn ofynnol o Ebrill 2025 (neu'n gynt os yn bosibl)
Mae hon yn swydd llawn amser a pharhaol
Cyflog: Prif Raddfa Addysgu/Uwch Raddfa Addysgu + Lwfans ADY
Dyddiad Cau: Dydd Llun Ionawr 6ed 2025
Yn Aberconwy rydym yn datblygu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion oed uwchradd sydd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig. Fe wnaethom agor dau ddosbarth ag adnoddau o 8 disgybl ym mis Medi 2020, ac ehangu i gynnwys dau ddosbarth pellach ar gyfer mis Medi 2022. Mae’r ddarpariaeth arbenigol hon ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth nad oes ganddynt anabledd dysgu, ond sy’n cael anhawster sylweddol i gael mynediad i’r cwricwlwm prif ffrwd yn ei gyfanrwydd. Mae Awdurdod Lleol Conwy yn gobeithio mai hwn fydd y cam cyntaf wrth ddatblygu darpariaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws pob cyfnod allweddol o addysg, gyda chylch gorchwyl clir ar gyfer cynhwysiant mewn addysg brif ffrwd lle bynnag y bo modd a galluogi disgyblion i gael mynediad i gwricwlwm llawn ac amrywiol. Mae’r ddarpariaeth yn helpu cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r medrau a’r hyder ar gyfer trosglwyddo o’r ysgol ac ymlaen i gyfleoedd addysg bellach yn unol â’u dyheadau a’u diddordebau.
Rydym felly am benodi athro profiadol, brwdfrydig ac ymroddedig i lenwi'r swydd hon. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad a gwybodaeth helaeth o weithio gyda disgyblion oed uwchradd ag awtistiaeth ac anawsterau niwroddatblygiadol cysylltiedig, yn ddelfrydol mewn lleoliad ysgol prif ffrwd.
Cynorthwyydd Addysgu
Cynorthwyydd Addysgu: Ystod Cyflog: G02 : £17,470 – £17,762
Mae hon yn swydd barhaol o 32.5 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Ionawr 6ed 2025
Dyddiad Dechrau: Chwefror 2025 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)
Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi myfyrwyr yn ein hadran ADY. Byddant yn gweithio o dan arweiniad y Cydlynydd ADY i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr yn y dosbarth, neu mewn grwpiau bach, gan ganolbwyntio'n benodol ar sgiliau llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu cymdeithasol ac anawsterau ymddygiadol. Byddant yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol a gallant hefyd ddarparu cefnogaeth weinyddol, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Ystod Cyflog: GO3 (£4,112- £4,181)
Mae hon yn swydd barhaol o tua 7.5 awr (1 diwrnod) yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig, fel rhan o rannu swydd gyda deiliad presennol y swydd. Yr union oriau i'w cytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn y cyfweliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 6 Ionawr 2025
Dyddiad Dechrau: Chwefror 2025 neu cyn gynted â phosibl.
Ceisiwn benodi person brwdfrydig ac ysgogol i ddatblygu a chynnal systemau cyfathrebu mewnol ac allanol yn yr ysgol. Byddant yn gweithio’n annibynnol ac yn greadigol i:
• codi proffil yr ysgol yn y gymuned leol drwy hyrwyddo ein brand,
• cynnal ein proffil cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol,
• cynnal gwefan yr ysgol,
• trefnu cyhoeddi prosbectysau a dogfennau eraill
• cynnal systemau cyfathrebu mewnol, bwletinau ac arddangosiadau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan-amser i rannu swydd gyda deiliad presennol y swydd, yn dilyn cyfnod o sefydlu a hyfforddi.