Yn ddiweddar aeth Mr Jolliffe a thîm gwych o staff â rhai o fyfyrwyr Hanes yr Henfyd i ymweld â Dinas Rhufain. Gwelsant amrywiaeth o safleoedd gan gynnwys y Colosseum, y Fforwm Rhufeinig, y Grisiau Sbaenaidd, Ffynnon Trevi a Basilica San Pedr. Fe wnaeth y daith gyfoethogi’r cwricwlwm Hanes yr Henfyd yn fawr ac roedd y myfyrwyr wrth eu bodd yn cael y cyfle i deithio, ymweld â’r ddinas hanesyddol a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.