Mae Ysgol Aberconwy newydd ennill gwobr 'Ysgol Uwchradd Orau' Gwobrau Addysgol Gogledd Cymru!
Mae’r gwobrau hyn, a gyflwynir ar ran y Free Press, y Journal a'r Pioneer, yn anrhydeddu cyflawniadau athrawon a myfyrwyr ar draws Conwy a Sir Ddinbych, gan ddathlu eu hymrwymiad a’u cyfraniad i’w hysgolion ac i fentrau addysgol yn eu cymuned.
Gan dorri'r traddodiad arferol o seremoni wobrwyo, eleni cyflwynwyd y gwobrau yn yr ysgolion eu hunain. Cyflwynwyd y wobr i’r Pennaeth Ian Gerrard, ynghyd â grŵp o fyfyrwyr llawn cyffro yn Ysgol Aberconwy. Meddai, “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar ran cymuned yr ysgol gyfan. Mae’n destament i waith caled holl staff, myfyrwyr a llywodraethwyr yr ysgol yn ogystal â’r rhai hynny yn y gymuned ehangach sy’n cefnogi’r ysgol mewn cymaint o ffyrdd. Rydym yn gweithio’n ddiflino i geisio rhoi addysg ragorol i blant ac i greu cymuned ddysgu hapus, gynhwysol a deinamig sy’n ysbrydoli, cefnogi a herio pawb – mae’n hyfryd pan gaiff y gwaith caled hwnnw ei gydnabod mewn gwobrau fel hyn, ond hefyd fel y gwelwn mae’r plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn ffynnu ac yn datblygu i fod yn bobl ifanc hyderus, caredig a meddylgar.”
Dywedodd Amelia, myfyriwr Chweched Dosbarth, “Mae’n gyflawniad anhygoel, y gwaith caled mae pawb yn ei wneud, y cyfleoedd rydyn ni wedi’u cael drwy’r ysgol, rydw i wedi cael chwech, saith mlynedd yma nawr ac mae wedi bod yn hollol anhygoel.”
Roedd rhieni’n hael eu canmoliaeth hefyd, gydag un enwebiad yn nodi, ”Mae Ysgol Aberconwy yn ysgol anhygoel sy’n rhoi ei disgyblion yn gyntaf. Mae fy mab wedi cael llawer o broblemau iechyd ers iddo ddechrau ac maent wedi bod yn gwbl anhygoel. Gwychl! Maen nhw wedi helpu cymaint fel ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w fywyd, ac i'w addysg. Fedra'i ddim sôn am y cyfan y maen nhw wedi'i wneud am eu bod nhw wedi gwneud cymaint.”
Mae ffilm fer yn dangos yr holl enillwyr a’u cyflwyniadau i’w gweld yma: Dolen Fideo