Ysgol Aberconwy yn Dathlu Llwyddiant TGAU 

Mae myfyrwyr a staff Ysgol Aberconwy yn dathlu canlyniadau TGAU trawiadol unwaith eto gyda myfyrwyr yn llwyddo i gael mynediad i'r cam nesaf o astudiaeth uwch, prentisiaeth neu lwybr gyrfa o'u dewis. 

Ymysg y llwyddiannau niferus a ddathlwyd gan fyfyrwyr a’u teuluoedd, llongyfarchiadau arbennig i Nell Shannon [7 A* a 4 A], Harry Senior [7A*, 3 A & 1 B], Amy Mann [5 A*, 4 A & 2 B], Sion Bailey [3A*, 5A, 2B & 1C], Katy Harris [3A*, 5A, 2B] ac Isla Shackleton [3A* & 8A].  

Dywedodd Tom Hogg, sy’n ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig ym mis Medi, “Diolch i Aberconwy rydw i wedi gallu datblygu fel person a byddaf yn bendant yn defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu yma yn y dyfodol.” 

Dywedodd Lola Weston, “Er gwaethaf yr heriau mae’r cyfan wedi gweithio allan.” Mae Nicole Abdi yn cytuno, “Mae pum mlynedd o waith caled ar ben yn swyddogol!” 

Rhaid rhoi sylw arbennig i'r llwyddiannau rhagorol yn TGAU Cymraeg. Yn dilyn llwyddiannau’r ysgol fel yr ysgol uwchradd gyntaf yn y rhanbarth i ennill gwobr Cymraeg Campus Uwchradd y Siarter Iaith Gymraeg, mae traean o’n carfan blwyddyn 11 wedi ennill gradd A* neu A yn TGAU. Dywedodd Gaynor Murphy, Pennaeth Cynorthwyol, “Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr a staff. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymrwymiad yr ysgol i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.” 

Llongyfarchodd y Pennaeth Ian Gerrard yr holl fyfyrwyr a staff ar eu canlyniadau. Meddai, “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau ein myfyrwyr eleni. Roedd y grŵp blwyddyn hwn newydd ddechrau yn yr ysgol uwchradd pan ddechreuodd y cyfnodau clo, ac maent wedi gorfod dangos llawer iawn o wytnwch, dyfalbarhad ac ymroddiad ers hynny i gyflawni'r canlyniadau rhagorol hyn. Edrychaf ymlaen at groesawu llawer ohonynt yn ôl i’n Chweched Dosbarth ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i’r rhai sy’n dilyn ystod eang o lwybrau amgen.” 

CY