Mae myfyrwyr a staff Ysgol Aberconwy yn dathlu canlyniadau Safon Uwch rhagorol unwaith eto gyda phob myfyriwr yn llwyddo i gael mynediad i’w prifysgol neu lwybr gyrfa dewisol.
Ymysg y llwyddiannau niferus a ddathlwyd gan fyfyrwyr a’u teuluoedd, llongyfarchiadau arbennig i Felix Somary [A*, A*, A*, A], Keira Williams [A*, A*, A, A], Vincent Villanueva [A*, A*, A, B], Cian Adams [A*, A, A, A] a Noah Hadley [A*, A, A, B]. Bydd Felix a Vincent yn mynd i'r Brifysgol i astudio Mathemateg yng Nghaerhirfryn a Warwick yn y drefn honno, tra bydd Cian yn astudio yn UCL a Keira yn Nghaerefrog. Bydd Noa yn paratoi i dreulio'i oes yn helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan drychineb byd-eang trwy astudio ‘Rheoli Trychinebau Rhyngwladol ac Ymateb Dyngarol (gyda Sbaeneg)’ ym Manceinion. Meddai, “Fedra'i ddim esbonio pa mor hapus a chyffrous ydw i i ddechrau astudio’r cwrs hwn yn y brifysgol ac ar gyfer y cyrchfannau di-ri gwahanol posibl. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb yn Aberconwy, yn staff a ffrindiau, am wireddu’r freuddwyd hon.” Ychwanegodd Felix, “Fedra'i ddim dweud 'mod i'n disgwyl hyn ond fedra'i ddim cwyno! Rydyn ni i gyd wedi gweithio'n galed ar gyfer yr arholiadau hyn ac rydw i'n falch iawn o fy ffrindiau i gyd. Byddwch yn barod, Prifysgol Caerhirfryn!!!”
Cafwyd perfformiadau rhagorol eraill gan Martha Hughes [Nyrsio oedolion yng Nghaerdydd], Zak Parry [Cemeg ym Manceinion], Amber Williams [Dylunio Cynnyrch ym Mangor], a Catrin Jones [Meddygaeth ym Mangor]. Mae nifer o fyfyrwyr eraill wedi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fynd â nhw i amrywiaeth o yrfaoedd - fel Luke Corcoran a fydd yn cymryd un o nifer fach o brentisiaethau chwenychedig gyda Scottish Power.
Mae'r ysgol yn arbennig o falch o Mykhailo Yushchenko a ymunodd â'r ysgol pan ffodd ef a'i deulu o'r rhyfel yn yr Wcráin ddwy flynedd yn ôl. Gydag ychydig iawn o wybodaeth am ein system Addysg na'n hiaith, mae wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni 3 chymhwyster Safon Uwch a lefel UG. Bydd nawr yn mynd ymlaen i astudio Athroniaeth mewn prifysgol yn Llundain – da iawn Misha!
Llongyfarchodd y Pennaeth Ian Gerrard yr holl fyfyrwyr a'r staff ar eu canlyniadau a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau ein myfyrwyr eleni ac mae'n galonogol gweld bod dewis mor eang ac amrywiol o gyrsiau yn cael eu dilyn gan ein pobl ifanc ledled y DU. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.”