Llongyfarchiadau i'r athrawes Celfyddydau Mynegiannol Amy Grimward ar ennill Gwobr Betty Campbell (MBE), un o ddeg gwobr, yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni.
Dim ond yn 2022 y sefydlwyd Gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac Amy yw’r ail berson yn unig i ennill y wobr.
Cydnabuwyd Amy am ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwrth-hiliaeth a’i gwaith gyda chydweithwyr i ddatblygu dull dad-drefedigaethol o ymdrin â’r cwricwlwm. Cyflwynwyd y wobr iddi mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Soughton, yr Wyddgrug ddydd Sul, 14 Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS.
Gallwch ddarganfod mwy am ei gwaith rhagorol yma: https://www.gov.wales/professional-teaching-awards-cymru/2024-awards/amy-grimward