Drama yn Theatr Pontio

Yn ystod prynhawn dydd Mawrth 30 Ebrill aeth ein myfyrwyr Lefel A Cymraeg, ynghyd â myfyrwyr blwyddyn 7 ac 8, i weld y ddrama 'Deian a Loli – Y Ribidirew Ola'' yn Theatr Pontio ym Mangor.

Dyma'r tro cyntaf i raglen deledu 'Deian a Loli' gael cynhyrchiad byw ar lwyfan.
Mae'n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr 'ysgol fawr'! Mae Deian yn gyffrous iawn ond nid yw Loli eisiau mynd. Ar ben popeth, mae allweddi'r car ar goll ac mae Loli yn mynnu bod eu ffrind dychmygol wedi eu dwyn. Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno â Loli i ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni - gan fynd ar ôl yr allweddi coll ar antur fwyaf eu bywydau!

Roedd y ddrama yn llawer o hwyl ac yn ffordd wych o ymarfer ychydig o sgiliau gwrando Cymraeg. Cafodd pawb amser hyfryd!

CY