Creu Celf yn y Gymuned

Ddydd Gwener 26 Ebrill ymunodd ein myfyrwyr TGAU Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant blwyddyn 11 ag oedolion hŷn yn y gymuned ar gyfer digwyddiad ymyrraeth yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy. Roedd yn brynhawn hyfryd o wneud collage o waith celf gan ddefnyddio hen luniau du a gwyn o Gonwy. Cynrychiolodd y merched yr ysgol yn wych unwaith eto. Diolch yn fawr iawn i Dîm Llesiant Conwy am ein gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad mor gadarnhaol. 

CY