Mae coeden Nadolig Ysgol Aberconwy yn cael ei harddangos yr wythnos hon yn eglwys y Santes Fair, Conwy fel rhan o Ŵyl Coed Nadolig Hosbis Dewi Sant Conwy.
Ein thema eleni yw 'Amgylchedd'. Bu myfyrwyr blwyddyn 7, 8 a 9 yn ymwneud â chreu addurniadau Nadolig gyda delweddau a negeseuon am achub ein planed.
Gallwch weld ein coeden ac eraill o'r gymuned yn Eglwys Santes Fair, stryd Rose Hill, Conwy, LL32 8LD 11:30yb – 3:30yp Dydd Llun 4 Rhagfyr – Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr.
Digwyddiad arbennig - Carolau o amgylch y goeden: Dydd Iau 7 Rhagfyr o 6yh. Bydd y noson yn cynnwys corau Eglwys Santes Fair ynghyd â chyfle i ganu Carolau o dan oleuadau Coed Nadolig yr Eglwys.