Wel am ddiwrnod ffantastig! Mae'r myfyrwyr a staff wedi bod yn hynod o brysur yn codi arian i Blant Mewn Angen. Rydym wedi cynnal 'Bake off' rhwng staff a myfyrwyr, ac roedd stondinau gyda gweithgareddau a nwyddau ar werth amser egwyl a chinio, gan gynnwys y cacennau o'r 'Bake off'! Fe wnaeth Mr Burrows hyd yn oed adael i'r myfyrwyr liwio ei wallt!
Rydym yn dal i gyfri, ond hyd yma rydym wedi codi'r swm enfawr o £3278.00! £3278.00!
Da iawn pawb!