Llongyfarchiadau i Nicole ym mlwyddyn 11 am ennill Gwobr Goffa Bob Mills a gyflwynwyd gan Lywydd y Rotari Tris Owen a Philip Jones o Glwb Rotari Llandudno. Bydd y dyfarniad hwn o £250 yn mynd tuag at ddatblygu dawn eithriadol Nicole mewn cerddoriaeth. Mae Rotari Llandudno hefyd wedi cyflwyno rhodd hynod garedig i’r ysgol tuag at ein hadran gerddoriaeth.