Ar y 12fed a’r 13eg o Fedi cafodd rhai o’n myfyrwyr blwyddyn 7 y cyfle i weithio gydag Andy Birch (artist graffiti Dime Un), yn dylunio gwaith celf sy’n tynnu sylw at ddiogelwch ar y rheilffyrdd a pheryglon tresmasu ar y rheilffordd.
Nod y prosiect, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac wedi'i ariannu gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru, yw ceisio lleihau tresmasu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain Cymru wedi ymgysylltu â myfyrwyr yn yr ysgol, ac esboniodd SCCH Suzanne Hall y prosiect gan drafod peryglon tresmasu ar y rheilffordd gyda'n myfyrwyr.
Ar ôl i Andy ddangos iddynt sut i greu llythrennau a dyluniadau graffiti, bu ein myfyrwyr wedyn yn cydweithio i greu dyluniadau ar gyfer byrddau a fydd yn cael eu harddangos yng ngorsaf drenau Llanfairfechan. Cafodd y dyluniadau eu paentio â chwistrell ar fyrddau gan Andy Birch a'r myfyrwyr. Mwynhaodd pawb y profiad yn fawr ac maent yn falch iawn o'r canlyniad. Rydyn ni'n meddwl bod y dyluniadau gorffenedig yn edrych yn wych!