Llongyfarchiadau i Maddison, myfyrwraig blwyddyn 11 a’i merlen, Hollyland Lion in Winter (a elwir yn Bertie) ar ennill Cerdyn Gwyllt yr Horse of the Year Show yn nosbarth Merlod 148cm Plant a fydd yn caniatáu iddi gystadlu yn y digwyddiad yn yr NEC ym mis Hydref.
Ochr yn ochr â hyn mae Maddison bellach wedi cyflawni'r hyn a ddisgrifir fel Cymhwyster Trebl Marchogol! Mae hi wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol 3 o Sioeau Ceffylau mwyaf mawreddog ac enwog y DU:
Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol ac yn nodi ei chysondeb yn nosbarthiadau rhagbrofol y DU. Gyda marciau reidio sydd wedi bod yn gyson yn y 3 uchaf, gan ddangos ei phenderfyniad a’i chysondeb, rydym yn siŵr y bydd yn gwneud yn dda wrth iddi fynd ymlaen i gystadlu â Bertie. Pob lwc!