Ym mis Mai eleni, cymerodd Ethan ran yng Nghystadleuaeth Siarad Mandarin Chinese Bridge a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig. Yn ystod y gystadleuaeth, cyflwynodd aelodau ei deulu, hobïau personol a chynlluniau ar gyfer ymweld â Tsieina i'r beirniaid, a'r cyfan yn Tsieinëeg. Cafodd werthfawrogiad gan y beirniaid am ei berfformiad rhagorol.
Safodd Nell ac Ethan y prawf HSK1 ym mis Mehefin gan sicrhau canlyniadau gwych! Mae'r HSK yn brawf safonedig rhyngwladol o hyfedredd iaith Tsieinëeg sy'n asesu gallu siaradwyr Tsieineaidd anfrodorol i ddefnyddio'r iaith Dsieinëeg yn eu bywydau beunyddiol, academaidd a phroffesiynol. Cwblhaodd Ethan hefyd gymhwyster Llwybrau Iaith CBAC arall mewn Mandarin Llafar. Mae eisoes wedi cwblhau a phasio Lefel Mynediad 3 a dewisodd herio ei hun y tro hwn ar Lefel 1. Bydd yn cael gwybod ei ganlyniadau yr haf hwn.
Cynhaliwyd clybiau cinio Tsieineaidd ddwywaith yr wythnos i roi cyfle i bob disgybl gymryd rhan mewn sesiynau oedd yn cynnwys celf, torri papur, ffilm, iaith, bwyd a gemau. Arweiniwyd yr holl ddosbarthiadau a chlybiau gan Zigeng He, athrawes Dsieineaidd o Sefydliad Confucius yng Nghaerdydd. Dywedodd Miss Nia Williams, Cydlynydd Dosbarth Confucius, "Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i Mr. He am ddarparu gwersi heriol ond hwyliog a hefyd am ei gefnogaeth barhaus i'n myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn".
Mae dosbarth Confucius Ysgol Aberconwy yn edrych ymlaen at groesawu ei myfyrwyr presennol yn ôl ar gyfer blwyddyn arall o Fandarin ac mae hefyd yn gobeithio cyfarch carfan newydd o fyfyrwyr sy’n dymuno elwa o’i rhaglenni a dysgu am iaith a diwylliant Tsieina.