Llongyfarchiadau i’n Pennaeth Ieithoedd Rhyngwladol, Jamie McAllister ar gael ei dewis ar gyfer gwobr “Special Mention” yng Ngwobrau Athrawon Almaeneg y DU 2023. Cyflwynwyd ei gwobr i Jamie mewn seremoni yn y Goethe Institut, Llundain, ddydd Gwener 7 Gorffennaf.
Hon oedd 20fed flwyddyn y wobr a Jamie oedd yr unig athro o Gymru yn y seremoni. Derbyniodd dystysgrif, llyfr a thanysgrifiad hanner pris i'r Association for Language Learning gan lysgennad yr Almaen yn y DU, Miguel Berger, a Nick Gibb, Gweinidog Addysg y DU. Cafodd hefyd gyfle i gwrdd ag Axel Scheffler a ddyluniodd y logo ar gyfer y wobr. Dywedodd, “Mae’n ddarlunydd mor adnabyddus, ar ôl darlunio llyfrau plant Julia Donaldson fel y Gryffalo a’r Stick Man, roeddwn i'r teimlo'n reit swil mewn gwirionedd!”