I ddathlu Diwrnod Windrush, mynychodd myfyrwyr Blwyddyn 7 weminar Speakers for Schools gyda Geoff Thompson MBE, a siaradodd am ei brofiadau ei hun fel dyn du, a bywyd rhyfeddol ei fam a oedd ar fwrdd HMS Empire Windrush. Gofynnodd pob dosbarth gwestiynau a bu dosbarth Mrs Grimward yn ddigon ffodus i gael atebion i'w cwestiynau: 'Beth ydych chi'n meddwl y gall pobl ifanc ei wneud i anrhydeddu Diwrnod Windrush?' Roedd yn wych clywed Geoff Thompson MBE yn canmol Llywodraeth Cymru am eu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth.