Wythnos Amrywiaeth a Ffoaduriaid

Yn ddiweddar buom yn dathlu amrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer y Gymuned LHDT+ a ffoaduriaid.

Cynlluniodd staff a myfyrwyr o gymuned LHDT+ yr ysgol nifer o ddigwyddiadau y gwahoddwyd pawb i gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys gwerthu cacennau, diwrnod dim gwisg ysgol a chystadleuaeth gelf.

I dynnu sylw at gyflwr y ffoaduriaid, darllenwyd 'The Girl in the Lewandowski Top' gan Tom Palmer, stori bum rhan newydd am deulu o Wcrain wrth iddynt gyrraedd y DU, i'n myfyrwyr blwyddyn 7 ac 8 yn ystod eu cyfnod darllen 20 munud dyddiol.

Daeth myfyrwyr a staff ynghyd i ddangos eu cefnogaeth ac i ledaenu’r neges bod pawb yn haeddu cael eu trin yn gyfartal. Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth Celf, Mia a Ian ym mlwyddyn 7; a hefyd i'r rhai a ddaeth yn ail, Angharad ym mlwyddyn 10 ac Aleena a Phoebe ym mlwyddyn 7, am eu cyflwyniad ar y cyd.

Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y Groes Goch ac elusen LHDT+ Cymru.

CY