Hoffem longyfarch Lucian, ym mlwyddyn 9, sydd wedi cael ei ddewis i chwarae hoci i dîm cenedlaethol dan 16 Cymru.
Mae Lucian, sydd wedi bod yn chwarae hoci ers blwyddyn 4, wedi bod yn gweithio’i ffordd drwy’r llwybr grŵp oedran cenedlaethol a chafodd ei ddewis i hyfforddi mewn Canolfannau Perfformio Rhanbarthol o fis Mai 2021. Mae wedi cael ei ddewis yn gyson i gynrychioli Gogledd Cymru drwy’r grwpiau oedran.
Ym mis Ionawr, roedd Lucian wrth ei fodd i glywed ei fod wedi cael ei ddewis yn gôl-geidwad ar gyfer Grŵp Oedran Cenedlaethol Cymru dan 16 (NAG) ar ôl mynychu treialon yng Nghaerdydd drwy gydol mis Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr. Bydd yn chwarae hoci rhyngwladol i Gymru yng Nghaerdydd yn erbyn y gwledydd cartref ac yn teithio'n bellach i ffwrdd i Ffrainc, y Swistir a Gwlad Pwyl.
Mae Lucian wedi bod yn frwd dros y gamp erioed, ac ar hyn o bryd mae’n gôl-geidwad i Glwb Hoci Eirias, yn 2il dîm y dynion yng Nghynghrair y Gogledd-orllewin, sydd ar fin cael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor hwn.
Dymunwn y gorau i Lucian, Clwb Hoci Eirias a thîm dan 16 Cymru yn y gemau sydd i ddod.