Yn Ysgol Aberconwy, rydym yn cynnig ystod eang o bynciau o fewn ein pennawd ymbarél Y Celfyddydau. Mae'r rhain yn cynnwys Celf a Dylunio, Cerddoriaeth a Celfyddydau Perfformio yng Nghyfnod Allweddol 3 ac ehangu i Gyfryngau, Ffilm, Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, Dawns a Drama yng Nghyfnod Allweddol 4 a 5 lle rydym yn cynnig cymysgedd o BTEC, TGAU a Safon Uwch. Gweler y Llyfryn Opsiynau Blwyddyn 9 a'r Prosbectws y Chweched Dosbarth i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn.
Yng Nghyfnod allweddol 3, mae myfyrwyr yn cymryd rhan yng Ngwobr y Celfyddydau, lle gallant ennill yr hyn sy'n cyfateb i hanner TGAU erbyn blwyddyn 9.
Mae myfyrwyr o bob grŵp oedran yn ymweld ac yn gweithio gydag ymarferwyr a grwpiau allanol, ac rydym yn hynod falch o rai o'r cysylltiadau sydd gennym, gan gynnwys y BBC, Theatr Genedlaethol, Gwobr Iris, Dawns Rambert, RCA, orielau a gweithdai Mostyn. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnig nifer o weithgareddau allgyrsiol cyffrous.