Rhoddir pob myfyriwr mewn grŵp tiwtor gallu cymysg o fechgyn a merched. Rôl y tiwtor yw dod i adnabod y plant sydd yn ei ofal a bod yn gyfrifol am weinyddu o ddydd i ddydd megis marcio’r gofrestr, gwirio’r wisg ysgol a darllen hysbysiadau dyddiol.
Mae'r Pennaeth Blwyddyn yn monitro cynnydd myfyrwyr yn y grŵp tiwtor ac yn ysgrifennu'r sylw cryno ar adroddiadau.
Anfonir adroddiad ysgrifenedig llawn at rieni bob blwyddyn. Bydd yr adroddiad yn cynnwys sylwadau gan bob athro pwnc, y tiwtor dosbarth a'r Pennaeth Blwyddyn.
Asesir cynnydd myfyrwyr yn rheolaidd mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer eu cyflawniad ym mhob maes cwricwlaidd. Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 3 a 4 adroddir i rieni ar berfformiad pob myfyriwr, mewn perthynas â lefelau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mhob pwnc craidd, sylfaen a gorfodol.
Mae myfyrwyr yn derbyn adroddiadau interim rheolaidd, sy’n rhoi syniad o’r cynnydd y mae dysgwr yn ei wneud ym mhob maes pwnc gan ddefnyddio ymadroddion: Cynnydd llai na’r disgwyl – Gweithio tuag at y targed – Cynnydd disgwyliedig – Cynnydd eithriadol. Disgwylir i fyfyrwyr fynd â'r holl adroddiadau interim a llawn adref. Mae Penaethiaid Blwyddyn a Mentoriaid Blwyddyn yn trefnu i fyfyrwyr drafod unrhyw faterion sy'n codi ac yn datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â meysydd o dangyflawni.
Cynhelir Nosweithiau Rhieni unwaith bob blwyddyn. Mae'r rhain yn gyfleoedd pwysig i rieni drafod cynnydd eu plentyn gydag athrawon, ac rydym yn eich annog i ddod.
Mae pob myfyriwr ym Mlynyddoedd 7-11 yn sefyll arholiadau fel y bo'n briodol. Ym Mlwyddyn 11 mae pob myfyriwr yn sefyll arholiadau ffug yn ystod Tymor yr Hydref. Mae'r ysgol yn paratoi pob disgybl i sefyll arholiadau cyhoeddus. I ddarganfod mwy am arholiadau a phrofion ewch i'r dudalen hon: Arholiadau a Phrofion
Dosberthir canlyniadau'r llynedd pan gyhoeddir canlyniadau Tablau Arholiadau'r Llywodraeth. Bob blwyddyn mae'r mwyafrif o'n myfyrwyr Blwyddyn 13 yn parhau â'u hastudiaethau mewn Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach.