Ddydd Gwener, Mawrth 7fed cynhaliwyd ein heisteddfod ysgol ryng-dŷ blwyddyn 7. Gwelsom amrywiaeth eang o gystadlaethau ar y llwyfan, o gystadlaethau canu ac offerynnol i ddatganiadau grŵp a dawnsio. Cawsom hefyd rai tasgau gwaith cartref nodedig yn cael eu harddangos yn y neuadd, wedi'u gosod gan wahanol bynciau. Llongyfarchiadau i Mr Roche yn yr Adran Hanes am yr arddangosfa fuddugol.
Pinacl y diwrnod oedd seremoni draddodiadol y cadeirio. Llongyfarchiadau i Faith am ennill cystadleuaeth y gadair am ysgrifennu chwedl wreiddiol am darddiad y mynydd ym Mhenmaenmawr, i Will am ennill Medal y Dysgwyr trwy ysgrifennu cofnod dyddiadur penwythnos, ac i Henry a enillodd y goron.
Enillydd cyffredinol y diwrnod oedd Crafnant! Da iawn chi i'r holl staff a myfyrwyr a gymerodd ran.