Mae disgyblion Hafan wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed, dros yr wythnosau diwethaf, ar fenter Nadolig. Maent wedi gwneud dros 60 o sleidiau fferins, dylunio a phaentio paledi Nadoligaidd a rhoi mygiau siocled poeth blasus at eu gilydd i’w gwerthu i staff.
Mae’r disgyblion wedi wynebu heriau ac wedi datblygu llawer o sgiliau newydd.
Hoffwn hefyd ddiolch i Mark Davies ac Emma Hughes o E. Poppleton & Son Ventilation Engineers o Fochdre am gyflenwi a dosbarthu'r paledi, yr addurniadau metel a'r paent.