Llongyfarchiadau i Oliver Jones-Barr, myfyriwr blwyddyn 10, a gynigiodd ei hun fel ymgeisydd yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd, gan gystadlu yn erbyn 12 ymgeisydd arall i ennill sedd Etholaeth Aberconwy!
Mae'n angerddol dros bynciau allweddol fel yr Iaith Gymraeg, tai a’r amgylchedd, ac yn awyddus i gynrychioli pobl ifanc yr ardal a gwthio’r Llywodraeth i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi bwyd.
Er y cystadlu brwd, fe gipiodd sedd Aberconwy! Mae bellach yn un o ddim ond 40 o bobl ifanc sydd wedi’u hethol yn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, pob un yn cynrychioli un o’r 40 etholaeth yng Nghymru. Am gamp!