Ymgeisydd Senedd Ieuenctid Cymru

Mae myfyriwr Ysgol Aberconwy, Oliver Jones-Barr, wedi cynnig ei hun i gynrychioli etholaeth Aberconwy yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru. Mae ganddo angerdd dros bynciau allweddol fel yr Iaith Gymraeg, tai a’r amgylchedd, ac mae’n awyddus i gynrychioli pobl ifanc yr ardal a gwthio’r Llywodraeth i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Dim ond un person ifanc fydd yn cael eu hethol ar gyfer pob un o’r 40 etholaeth yng Nghymru a gyda 12 ymgeisydd arall yn gobeithio cipio sedd Aberconwy, mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn sy'n gyrru Oliver trwy ddarllen ei gwybodaeth ymgeisydd neu drwy wylio'r fideo isod. Pob lwc Oliver!

I gofrestru i bleidleisio yn Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru cliciwch yma. Rhaid i chi fod rhwng 11 a 17 oed, a naill ai'n byw neu'n derbyn eich addysg yng Nghymru. Mae'r cofrestru i bleidleisio yn cau 20 Tachwedd.

CY