Dros £5200 i Blant Mewn Angen!

Mae staff a myfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi codi dros £5200 oherwydd digwyddiadau beicio a rhwyfo noddedig, her golff, gwisg ffansi a phaentio wynebau, arwerthiannau pobi a staff yn rhedeg yn hanner marathon Conwy! Da iawn a diolch i bawb a gyfrannodd at ein hapêl , a dorrodd pob record. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eich holl ymdrechion anhygoel.

CY