Diolch i bawb a gefnogodd Diwrnod Shwmae Su'mae yn yr ysgol ar 15fed Hydref. Dyfarnwyd dros 600 o bwyntiau cyflawniad i fyfyrwyr trwy gydol y dydd - ymdrech wych! Gwaed mawr i Leo Dexter Lowe, bl 7 am ennill y mwyaf o bwyntiau 'Siarad Cymraeg' ac i Miss Bethan Hughes am ddyfarnu'r nifer fwyaf o bwyntiau i fyfyrwyr.
Llongyfarchiadau hefyd i Ebony Campell, Blwyddyn 8 a ddefnyddiodd ei thalentau celfyddydol i ennill y gystadleuaeth logo Shwmae, Su’mae, ac i Seren Roberts, blwyddyn 9 am ddod yn ail gydag Emily Ince, blwyddyn 8 ac Osian Dennis, blwyddyn 9 yn rhannu’r trydydd safle gyda’u dyluniadau gwych.
Da iawn chi i bawb a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth coginio PobUrdd eleni. Roedd bisgedi pawb yn edrych ac yn blasu’n hyfryd! Llongyfarchiadau i Carter Tawhai, blwyddyn 8 ar ddod yn gyntaf ac i Solomiia Yushchenko, blwyddyn 7 ar ddod yn ail. Bydd y ddau nawr yn symud ymlaen i’r rownd nesaf ac yn coginio eu hoff bwdin – Pob lwc!