Ddydd Gwener 13 Medi, bu myfyrwyr o flwyddyn 7 yn ymweld â’r Ffair Fêl yng Nghonwy, gan ddysgu am hanes a phwysigrwydd ffair y Siarter Frenhinol 700 mlwydd oed fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Yn byrlymu fel gwenyn yn yr heulwen, buont wrthi’n ymweld ag amrywiaeth o stondinau yn gwerthu mêl a chynnyrch mêl, gan samplu mêl lleol a chasglu gwybodaeth ar gyfer arolwg. Yn ôl yn yr ysgol, aethant ati i ysgrifennu cyfarwyddiadau yn Gymraeg ar sut i wneud brechdan fêl ac yna defnyddiwyd y rhain i gloi bore llawn hwyl gyda gwobr haeddiannol a blasus!