Arddangos y Gymraeg

Ar Ddydd Mawrth, Mehefin 25ain agorwyd ein drysau ar gyfer Diwrnod Agored Cymraeg arbennig i ddathlu ac arddangos y gwaith rydym wedi’i wneud i wella a hyrwyddo’r ethos Gymraeg a’r Gymraeg yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobr Arian Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchardd i Ysgol Aberconwy gan Meinir Thomson a Heledd Morgan o Lywodraeth Cymru, sy’n golygu mai ni yw’r ysgol uwchradd gyntaf yng Ngogledd Cymru gyfan i ennill y wobr!

Llongyfarchodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Julie Fallon, yr ysgol ar ei Gwobr. Dywedodd “Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Aberconwy wedi ennill y wobr hon. Mae’n adlewyrchiad o waith caled pawb yn yr ysgol i helpu pobl ifanc i elwa drwy gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.”

Lansiwyd y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni hefyd, lle cyhoeddwyd hefyd mai ein myfyrwraig ym mlwyddyn 12, Angharad Brookes, oedd enillydd cystadleuaeth genedlaethol dylunio logo Siarter Iaith Uwchradd! (Gweler yr erthygl yma). Mae’r wobr newydd hon yn cydnabod yr ymdrechion a’r ffyrdd y gall ysgolion uwchradd ysbrydoli ac annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol ac ym mhob agwedd arall ar eu bywydau.

Dywedodd Mrs Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth y Gymraeg a chydlynydd y Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd “Mae wedi bod yn fraint cael peilota y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd i ysgolion Conwy yn ogystal ag ysgolion uwchradd eraill Gogledd Cymru. Agorwyd ein drysau i’n hysgolion uwchradd cyfagos, i’n hysgolion uwchradd sy’n bellach i ffwrdd, i’n hysgolion cynradd clwstwr ac i asiantaethau allanol fel yr Urdd, Menter Iaith, Mudiad Meithrin i enwi dim ond rhai. Rydym wedi arddangos popeth rydyn ni wedi’i wneud i godi proffil y Gymraeg yn Ysgol Aberconwy ac wedi cynnal taith dywys o amgylch yr ysgol!”

Ychwanegodd Cydlynydd Cymreictod a Dwyieithrwydd Ysgol Aberconwy, Elen Môn Williams, “Hoffem ddiolch i’r holl staff a myfyrwyr, yn enwedig ‘Criw Cymraeg’ am eu holl ymdrechion, gyda’u cefnogaeth a’u hanogaeth mae’r Gymraeg bellach yn ffynnu yn yr ysgol.”

Mynychodd Pennaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dr Lowri Brown y digwyddiad a dywedodd, “Fe wnes i fwynhau cwrdd â’r dysgwyr a’r staff yn fawr ac fe’m hysbrydolwyd yn fawr gan eu brwdfrydedd a’u cyfraniadau gwerthfawr tuag at wreiddio’r Gymraeg ar draws yr ysgol. Roedd y sesiynau’n addysgiadol iawn ac wedi’u strwythuro’n dda ac roedd yn bleser mawr bod ymhlith dysgwyr mor gwrtais ac egnïol a oedd yn awyddus iawn i rannu eu gwaith ac a ddangosodd eu hangerdd dros yr iaith gyda chymaint o hyder.”

Dywedodd Dr Elin Angharad Davies, Tiwtor Drefnydd Gweithle ym Mhrifysgol Bangor, “Roedd yn wych gweld yr hyn yr ydych yn ei wneud yn Aberconwy a’r profiadau dwyieithog a roddir i’r plant. Roeddwn wrth fy modd yn clywed Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr yn y wers Saesneg, yn normaleiddio a meithrin ystafell ddosbarth ddwyieithog. Rwyf i ac Eryl wedi ymweld â llawer o ysgolion yn ddiweddar ac fe’n syfrdanwyd gan faint o Gymraeg oedd ar eich waliau, yn y coridor a pha mor angerddol yw eich staff am y Gymraeg.”

Mae gan Ysgol Aberconwy fentrau fel ‘Gwobrau Iaith Adrannol’, cynllun pwrpasol sy’n darparu fframwaith clir i athrawon hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda dysgwyr. Rydym hefyd yn cynnal Eisteddfod Ysgol flynyddol ym mis Mawrth bob blwyddyn a gall dysgwyr o bob oed gyfarfod amser cinio yn ‘Y Caban’, ystafell liwgar a modern unigryw, i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Dywedodd Cynghorydd Sir Conwy a Phencampwraig y Gymraeg Gwennol Ellis, “Yn ystod ein taith o gwmpas yr Ysgol, roedd yn amlwg bod parch gwirioneddol at y Gymraeg – yn y dosbarthiadau a’r coridorau ac ar yr hysbysfyrddau unigryw o ansawdd uchel, sy'n werth eu gweld. Roeddwn wrth fy modd gyda'r enwau a ddewiswyd ar gyfer y gwahanol leoliadau o fewn a thu allan i'r Ysgol. Wrth gerdded o gwmpas yr adeilad, cefais fy nharo gan ba mor bosibl fyddai trosglwyddo’r hyn sy’n digwydd yn Ysgol Aberconwy i ysgolion a sefydliadau eraill Conwy gan gynnwys y Cyngor Sir, gyda’r ewyllys cywir.”

Dywedodd Mr Ian Gerrard, Pennaeth, “Rydym yn falch iawn o’r wobr hon, sy’n adeiladu ar y wobr Efydd a gawsom ym mis Medi 2023. Mae’n dyst i waith caled a brwdfrydedd disgyblion wrth gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Rydyn ni nawr yn rhoi cynlluniau ar waith i weithio tuag at y Wobr Aur!”

CY