Arddangos Cymraeg

Ddydd Mawrth, Mehefin 25ain agorwyd ein drysau ar gyfer Diwrnod Agored yr Iaith Gymraeg arbennig i ddathlu ac arddangos y gwaith rydym wedi’i wneud i wella a hyrwyddo’r ethos Gymraeg a’r iaith Gymraeg yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobr Arian Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd i Ysgol Aberconwy gan Meinir Thomson a Heledd Morgan o Lywodraeth Cymru, sy’n golygu mai ni yw’r ysgol uwchradd gyntaf yng Ngogledd Cymru gyfan i ennill y wobr!

Lansiwyd y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni hefyd, lle cyhoeddwyd hefyd mai ein myfyrwraig ym mlwyddyn 12, Angharad Brookes, oedd enillydd cystadleuaeth genedlaethol dylunio logo Siarter Iaith Uwchradd! (Gweler yr erthygl yma). Mae’r wobr newydd hon yn cydnabod yr ymdrechion a’r ffyrdd y gall ysgolion uwchradd ysbrydoli ac annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol ac ym mhob agwedd arall ar eu bywydau.

Mae Pennaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dr Lowri Brown, wedi llongyfarch Ysgol Aberconwy ar ei Gwobr Arian Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd, gan ddweud “Rwy’n falch iawn bod Ysgol Aberconwy wedi ennill y wobr hon. Mae’n adlewyrchiad o waith caled pawb yn yr ysgol i helpu pobl ifanc i elwa drwy gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.”

Dywedodd Mrs Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth y Gymraeg a chydlynydd y Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd “Mae wedi bod yn fraint cael peilota y Wobr Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd newydd i ysgolion Conwy yn ogystal ag ysgolion uwchradd eraill Gogledd Cymru. Agorwyd ein drysau i’n hysgolion uwchradd cyfagos, i’n hysgolion uwchradd sy’n bellach i ffwrdd, i’n hysgolion cynradd clwstwr ac i asiantaethau allanol fel yr Urdd, Menter Iaith, Mudiad Meithrin i enwi dim ond rhai. Rydym wedi arddangos popeth rydyn ni wedi’i wneud i godi proffil y Gymraeg yn Ysgol Aberconwy ac wedi cynnal taith dywys o amgylch yr ysgol!”

Mae gan Ysgol Aberconwy fentrau fel ‘Gwobrau Iaith Adrannol’, cynllun pwrpasol sy’n darparu fframwaith clir i athrawon hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd gyda dysgwyr. Rydym hefyd yn cynnal Eisteddfod Ysgol flynyddol ym mis Mawrth bob blwyddyn a gall dysgwyr o bob oed gyfarfod amser cinio yn ‘Y Caban’, ystafell liwgar a modern unigryw, i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Dywedodd Cydlynydd Cymreictod a Dwyieithrwydd Ysgol Aberconwy, Elen Môn Williams, “Hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr sy’n rhan o’r Criw Cymraeg am eu holl ymdrechion, gyda’u cefnogaeth a’u hanogaeth mae’r Gymraeg bellach yn ffynnu yn yr ysgol.”

Dywedodd Mr Ian Gerrard, Pennaeth, “Rydym yn falch iawn o’r wobr hon, sy’n adeiladu ar y wobr Efydd a gawsom ym mis Medi 2023. Mae’n dyst i waith caled a brwdfrydedd disgyblion wrth gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Rydyn ni nawr yn rhoi cynlluniau ar waith i weithio tuag at y Wobr Aur!”

CY