Enillydd Cystadleuaeth Logo Cymraeg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Angharad, un o’n myfyrwyr Blwyddyn 12, wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i ddylunio logo ar gyfer Siarter Iaith newydd yr ysgolion uwchradd!

Roedd y cystadlu yn frwd gyda dros 100 yn cystadlu ond dewiswyd cynllun Angharad! Yna cafodd Angharad gyfle i weithio gyda dylunydd proffesiynol ar ei logo, a fydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n genedlaethol ac yn ymddangos ar holl ddogfennaeth a deunyddiau Siarter Iaith yr ysgolion uwchradd.

Cyhoeddwyd buddugoliaeth Angharad yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ar ddydd Mercher, Mai 29ain lle cafodd ei llongyfarch ym mhabell Llywodraeth Cymru yn seremoni lansio Siarter Iaith newydd yr ysgolion uwchradd.

Bydd Angharad yn derbyn ei gwobr gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn ystod ein Diwrnod Agored Cymraeg ar Fehefin 25ain, pan fyddwn yn agor ein drysau i ysgolion cynradd lleol ac ysgolion uwchradd eraill Gogledd Cymru i ddangos sut y bu i ni dreialu’r Siarter Iaith Gymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd. ac ennill gwobr Efydd Siarter Iaith. Rydym hefyd yn gobeithio derbyn gwobr Arian Siarter Iaith Cymraeg Campus Uwchradd yn ystod y digwyddiad hwn!

Dywedodd Luned Davies Parry, Dirprwy Bennaeth yr Adran Gymraeg a Chydlynydd Siarter Iaith Cymraeg Campus Uwchradd, “Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Angharad wrth greu logo a fydd yn cael ei ddefnyddio ar lefel genedlaethol am flynyddoedd i ddod, ac rydym wrth ein bodd i gael y cyfle i ddathlu ei llwyddiant gyda hi yn ystod ein Diwrnod Agored Cymraeg.”

CY