Pencampwriaethau'r Gymanwlad i Libby

Llongyfarchiadau enfawr i’r cyn-fyfyriwr Libby Rubin, sydd wedi’i dewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad 2024 a gynhelir yn Sun City, De Affrica!

Y llynedd, tra'n brif fyfyriwr yn Ysgol Aberconwy, torrodd Libby recordiau codi pŵer Cymru, gan olygu mai hi oedd y fenyw gryfaf yn ei chategori yng Nghymru erioed! (Gweler yr erthygl newyddion honno yma). Yn dilyn y llwyddiant hwn, ac o ganlyniad i’w pherfformiad ym Mhencampwriaethau Iau ac Is-Iau Prydain 2024, mae’r codwr pŵer benywaidd bellach wedi’i dewis i gystadlu yn Nosbarth Iau dan 76 ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad ym mis Hydref.

Nawr, yn 19 oed ac yn astudio mathemateg ym Mhrifysgol Loughborough, mae Libby wedi sefydlu tudalen codi ariana fydd, mae'n gobeithio, yn codi £1000 i helpu i gefnogi ei pherfformiad a gwireddu ei breuddwyd; i gael y cyfle i gystadlu dros ei gwlad mewn camp y mae'n ei charu.

Mae Libby yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i bawb sy'n dechrau yn y gamp ac mae cymuned Ysgol Aberconwy yn falch iawn o'i holl gyflawniadau. Dymunwn y llwyddiant mwyaf iddi wrth iddi symud yn nes at wireddu ei breuddwyd.
Pob lwc Libby, rydyn ni i gyd yn dy gefnogi!

CY