Cystadlu mewn Karate

Teithiodd Macie, myfyriwr Blwyddyn 9 i’r Almaen yn ddiweddar fel rhan o dîm bach a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn 10fed Pencampwriaeth Ewropeaidd Shito Ryu.

Dechreuodd Macie Karate pan oedd yn wyth oed ac mae'n hyfforddi tair i bedair gwaith yr wythnos yn Hajime Hero yn Llandudno. Mae hi bellach wedi’i dewis i ymuno â’r tîm sy’n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ewrop Shito Ryu am y tair blynedd diwethaf, sy’n dyst i’w brwdfrydedd a’i hymroddiad i’r gamp.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth dros 3 diwrnod a chymerodd sawl gwlad ran. Perfformiodd Macie Kata wych yn y rownd gyntaf, ac o ganlyniad i'w pherfformiad mae hi wedi cael gwahoddiad i fynychu Pencampwriaethau Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.

Llongyfarchiadau Macie, dymunwn bob lwc i chi!

CY