Sgïo yn yr Eidal

Eleni aethon ni ar ein taith sgïo i'r Bormio, yr Eidal. Dyma'r eildro i ni fod yma ac unwaith eto ni chawsom ein siomi.

Ar ôl y daith bws faith 28 awr fe gyrhaeddon ni ein gwesty, gan ddadbacio mewn pryd i fynd i gasglu ein geriach sgïo o'r mynydd. Roedd y golygfeydd yn wych ac yn syfrdanol ac roeddem yn edrych ymlaen at yr wythnos i ddod.

Ar ôl derbyn ein sgïau, polion a helmedau allem ni ddim aros am y daith yr oeddem ar fin cychwyn arni. Yn ogystal â'r sgïo anhygoel bob dydd fe aethon ni hefyd i gasino, cymryd rhan mewn her cwis tîm, seddfyrddio a mynd i far karaoke/disgo.

Mwynhaodd yr holl fyfyrwyr a aeth ar y daith eu hamser yn fawr ac roedd yr adborth o’r daith yn wych: “caled”, “heriol”, “hwyliog”, “cyffrous” a “newid bywyd” oedd rhai o’r sylwadau a wnaed gan y grŵp amryddawn hwn.

Roedd y daith yn llwyddiant ysgubol ac i rai (staff a myfyrwyr) roedd yn her nad oeddent byth wedi meddwl y gallent ei chyflawni.

Hoffem ddiolch i'r holl fyfyrwyr, a fu'n wych; gobeithio y bydd hwn yn brofiad a fydd yn aros yng nghof bob un ohonynt am oes.

CY