Ar ddydd Llun heulog ym mis Mawrth, aethom â 18 o fyfyrwyr blwyddyn 10 dewr i Lan Llyn am y diwrnod. Cawsom amrywiaeth o weithgareddau o’r rhaffau uchel i sesiwn canŵio ar y llyn. Cafodd pob un o’r myfyrwyr ddiwrnod gwych gan ddefnyddio eu sgiliau sgwrsio Cymraeg yn llwyddiannus i gyfathrebu.